Canllaw i Fyfyrwyr am Adolygiadau QAA yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwef 2022
Yng Nghymru, rydym yn gweithio'n agos â'r darparwyr addysg uwch a gydag ystod o gyrff eraill, megis Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Phrifysgolion Cymru, i gefnogi ac adolygu'r ffordd y rheolir ansawdd a safonau academaidd.
Mae ein Pwyllgor Cynghori ar Strategaeth QAA Cymru wedi ei gadeirio gan aelod o'n Bwrdd sy'n dod o'r sector prifysgolion yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn rhoi cyngor strategol i ni ar ein gwaith ac yn sicrhau bod ein Bwrdd yn hollol ymwybodol o faterion penodol sy'n berthnasol i Gymru.
Rydym yn gweithio gyda'n haelodau yng Nghymru mewn amrywiaeth fawr o weithgareddau sy'n benodol berthnasol i Gymru, drwy weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cyd-ymrwymiad i wella a chyfoethogi profiad dysgu'r myfyrwyr.
Adolygiad Gwella Ansawdd yw ein dull o adolygu darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Mae hwn yn cyfuno dulliau o sicrhau ansawdd gyda gwaith i wella ansawdd ac mae'n cynnwys y myfyrwyr yn y broses. Gellir addasu'r Adolygiad i gyfateb â natur arbennig y brifysgol neu'r coleg dan sylw.
Mae'r broses Adolygiad Ansawdd Porth yn gyfle i ddarparwr addysg uwch ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion ansawdd sylfaenol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.
Mae pob un o'n timau adolygu yng Nghymru'n cynnwys aelod sy'n fyfyriwr, yn rhan o'n hymdrech i gynnwys myfyrwyr yn y broses o sicrhau a gwella ansawdd eu haddysg uwch eu hunain.
Mae ein canllaw'n rhoi trosolwg o'r ffordd y mae myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y broses adolygu, a bydd yn helpu'r darparwyr a'u myfyrwyr i gynllunio eu gwaith o baratoi ar gyfer y broses. Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â'r llawlyfr adolygiad perthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwef 2022
Mae QAA yn cynhyrchu astudiaethau achos drwy ddadansoddi arferion canmoladwy sy'n dod i'r amlwg mewn Adolygiadau Gwella Ansawdd er mwyn hyrwyddo arfer da drwy'r sector cyfan.
Dyddiad cyhoeddi: 08 Meh 2022
Dyddiad cyhoeddi: 08 Meh 2022
Hefyd, mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru'n cynnal cyflwyniadau'n rheolaidd i rannu arferion canmoladwy sy'n dod i'r amlwg mewn Adolygiadau Gwella Ansawdd, ac arferion da eraill o bob rhan o'r sector yng Nghymru a thu hwnt. Mae adnoddau'r Rhwydwaith ar gael ar ein gwefan neilltuedig 'Adnoddau i'n Haelodau'.
Ein hegwyddor wrth wneud ein gwaith yng Nghymru yw y byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ac yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel y mae'n berthnasol i ni.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ion 2023
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorff 2016
Cafodd prosiect Rhaglenni Cydweithredol Cymru ei ariannu gan Gronfa Buddsoddi ac Adfer Addysg Uwch (Cronfa BAAU) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Arweiniwyd y prosiect gan Brifysgol Abertawe ar ran Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru. Mae'r pecyn adnoddau wedi ei gynllunio i gynorthwyo unrhyw un sydd â diddordeb mewn edrych yn fanylach ar ddarpariaeth gydweithredol, a gellir ei ddefnyddio i wella prosesau ansawdd yn y maes hwn.
Rydym wedi darparu canllawiau i helpu darparwyr addysg uwch sy'n darparu a/neu'n asesu rhaglenni academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru i sicrhau bod ganddynt drefniadau ymarferol effeithiol. Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu nifer o'r egwyddorion a'r arferion allweddol sy'n berthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2019
Mae Cymwysterau Cymru'n rheoleiddio cymwysterau nad ydynt yn raddau a'r system gymwysterau yng Nghymru. Mae QAA yn gyfrifol am y fframwaith rheoleiddio ar gyfer rheoleiddio a chydnabod cyrsiau Mynediad i AU. Mae ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi cyfrifoldebau perthnasol y ddwy ochr am ddarpariaeth y cymhwyster hwn a gynigir yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hyd 2018