Ar ran CCAUC, rydym yn gwneud Adolygiadau Ansawdd Porth o ddarparwyr addysg uwch i brofi eu darpariaeth addysg uwch yn erbyn y gofynion rheoleiddiol sylfaenol yng Nghymru o ran ansawdd. Rydym hefyd yn ail brofi yn erbyn agweddau'r gofynion rheoleiddiol sylfaenol sy'n ymwneud ag ansawdd ar ddiwedd cyfnod o bedair blynedd, pan fydd y darparwr yn gofyn i ni wneud hynny.
Nod cyffredinol Adolygiad Ansawdd Porth yw rhoi barn arbenigol i CCAUC am drefnau'r darparwr ar gyfer sicrhau ansawdd ei ddarpariaeth addysg uwch.
Bydd pwyso Escape yn canslo ac yn cau'r ymgom hwn
Cydymffurfiad â'r ESG
Mae'r Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG) yn darparu'r fframwaith ar gyfer trefnau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol yn Ardal Addysg Uwch Ewrop. Mae dulliau adolygu QAA yn cydymffurfio â'r safonau hyn, ac felly hefyd yr adroddiadau a gyhoeddir gennym. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld ar ein gwefan.
Lluniwyd y broses Adolygiad Ansawdd Porth i:
- sicrhau bod buddiannau'r myfyrwyr yn cael eu diogelu
- roi cyngor arbenigol i sicrhau bod enw da system addysg uwch y DU yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys diogelu safonau academaidd
- bennu meysydd sydd angen eu datblygu a/neu welliannau penodol a fydd yn helpu'r darparwr i fodloni'r gofynion rheoleiddiol sylfaenol.
- Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y bydd CCAUC yn defnyddio canlyniadau Adolygiadau Ansawdd Porth i'w cael ar wefan CCAUC.
LLAWLYFR GYDA CHANLLAWIAU
Os byddwch yn penderfynu mynd drwy'r broses Adolygiad Ansawdd Porth, anfonwch e-bost at CCAUC ar cyngorrheoleiddio@hefcw.ac.uk os gwelwch yn dda.
Bydd angen i chi roi gwybod i QAA hefyd am eich penderfyniad i gomisiynu Adolygiad Ansawdd Porth. Anfonwch e-bost at QAA ar ARCadmin@qaa.ac.uk os gwelwch yn dda.
Sail Wybodaeth Adolygiadau yng Nghymru
Mae’r sail wybodaeth hon wedi’i datblygu o ddeilliannau’r Adolygiad Gwella Ansawdd a’r Adolygiad Ansawdd Porth - Cymru rhwng 2017 a’r presennol. Mae’r sail wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am y dulliau adolygu gan gynnwys meysydd beirniadaeth, categoreiddio canmoliaeth, cadarnhau, meysydd ar gyfer datblygu a gwelliannau penodol, a newidiadau yn ystod cylchred. Gall defnyddwyr ddidoli’r canlyniadau fesul themâu o Gôd Ansawdd y DU yn ogystal â chategorïau ychwanegol.