Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yw'r corff annibynnol o arbenigwyr sy'n sicrhau ansawdd addysg uwch drwy'r DU gyfan. Mae'r gwaith hwn yn cael ei ariannu drwy ffioedd aelodaeth, ac mae gennym fwy na 300 o aelodau ar hyn o bryd. Mae aelodaeth â QAA yn wirfoddol yn Lloegr, lle mae mwy na 98% o'r prifysgolion yn aelodau, ac mae'n orfodol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Aelodaeth QAA yn darparu gweledigaeth, arbenigedd, cymorth ymarferol, adnoddau ac arweiniad ynglŷn â'r materion sy'n bwysig i fyfyrwyr a staff.


Mae QAA yn gyfrifol am gadw a chynnal cyfres o bwyntiau cyfeirio i sector addysg uwch cyfan y DU sy'n rhan hanfodol o seilwaith sicrhau ansawdd y sefydliadau addysg uwch ledled y DU ac yn helpu i ddiogelu enw da addysg uwch y DU drwy'r byd i gyd. Mae'r gyfres hon yn cynnwys:


Rydym hefyd yn gyfrifol am gadw goruchwyliaeth ar y darparwyr hynny nad ydynt yn gymwys i gofrestru â'r Swyddfa Myfyrwyr.


QAA yw'r corff sydd â'r cyfrifoldeb dros reoleiddio'r Diploma Mynediad i AU, ac rydym yn trwyddedu'r asiantaethau sy'n datblygu, yn cymeradwyo ac yn monitro cyrsiau Mynediad i AU. Rydym hefyd yn hyrwyddo'r Diploma Mynediad i AU, gan hybu ymwybyddiaeth pobl o'r cymhwyster a'i allu i weddnewid bywydau.

 

Ers 2018, mae gan QAA rôl benodol fel y corff sicrhau ansawdd dynodedig yn Lloegr. Dynodwyd QAA gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn Lloegr yn gorff sydd â'r cyfrifoldeb am ddarparu asesiadau i'r Swyddfa Myfyrwyr. Cyflawnir y rôl hon gennym ar wahân i'n gwaith arall yn Lloegr. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd QAA ei phenderfyniad i ymadael â'i rôl fel y corff sicrhau ansawdd dynodedig ar ddiwedd y tymor cyfredol, sef 31 Mawrth 2023.