Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Strategaeth 2023-27


Rhagoriaeth, annibyniaeth ac ymddiriedaeth mewn sicrhaua gwella ansawdd


Pwrpas QAA

 

Sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr yn profi addysg o'r ansawdd uchaf posibl.

 

Rôl ac effaith QAA

 

Rydym yn asiantaeth ansawdd sy'n arwain y byd gyda phrofiad digymar o ddarparu sicrwydd a gwelliant ansawdd rheoleiddiol a chydweithredol diduedd.

 

Rydym yn cynorthwyo prifysgolion a cholegau i weithio gyda myfyrwyr a dysgwyr, llywodraethau, cyllidwyr a chyrff rheoleiddio i ddarparu tystiolaeth a gwella ansawdd rhagorol a safonau uchel yr addysg a ddarperir ganddynt.

 

Rydym yn gweithio tuag at ddealltwriaeth well ar ran y cyhoedd - gartref ac yn rhyngwladol - o sut y dangosir ansawdd rhagorol mewn addysg uwch yn y DU, a sut mae darparwyr hunan-reolus yn sicrhau darpariaeth yr ansawdd honno ac yn mynd i›r afael â gwendidau.

 

Mae ein gwaith yn diogelu gwerth cymwysterau i fyfyrwyr a dysgwyr, yn ogystal â diogelu a hyrwyddo enw da addysg uwch.

 

Mae ein gwaith yn seiliedig ar y gred bod profiad academaidd o ansawdd uchel i ddysgwyr yn beth da ynddo’i hun, yn hybu dealltwriaeth a gwybodaeth ddynol, ac yn cynorthwyo cynnydd economaidd a  chymdeithasol ehangach.

 

""

Ein pedwar maes ffocws

 

Safonau

Gwarchod cyfeirbwyntiau’r sector a thargedu canllawiau i sicrhau safonau academaidd a gwerth cymwysterau.

Sicrwydd a gwelliant

Cyflwyno ymagwedd arloesol ac uchel ei pharch at ansawdd, gan alluogi sefydliadau a dysgwyr i weithio ar y cyd i werthuso eu harfer a pharhau i wella eu profiad dysgu.

Rhyngwladol

Ehangu ein gweithgarwch rhyngwladol, gan fanteisio ar enw da rhagorol QAA ac AU y DU yn fyd-eang mewn meysydd newydd er budd addysg drydyddol y DU.

Arweinyddiaeth

Dylanwadu ar lunwyr polisi, prifysgolion a cholegau, myfyrwyr a dysgwyr a chynnig cymorth iddynt drwy fewnwelediad arbenigol wedi'i gyfleu'n glir.


Mae gwaith QAA yn hanfodol

 

Mae prifysgolion a cholegau ar eu cryfaf pan fydd ganddynt sicrwydd annibynnol, cydweithredol, cymesur ac arbenigol, ynghyd â gwelliant ansawdd.

  • Mae safonau academaidd yn cael eu diogelu gan y cyfeirbwyntiau sy›n eiddo i›r sector y mae QAA yn gofalu amdanynt, gan gynnwys Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch, Fframweithiau Cymwysterau a Datganiadau Meincnod Pwnc.
  • Mae hyn yn hanfodol ar gyfer diogelu gwerth cymwysterau ac ar gyfer enw da rhyngwladol sector y DU. Mae ein harbenigedd yn helpu prifysgolion a cholegau i fodloni a chydbwyso gofynion rheoleiddio, gan gynnwys rhai cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio (PSRBs), a hynny mor gost-effeithiol â phosibl.
  • Wrth i bolisi, arfer a thechnoleg newid, rydym yn helpu prifysgolion a cholegau i ragweld ac ymateb i ddatblygiadau newydd, yn hyderus bod ein harweiniad yn ddiduedd ac yn cynrychioli arfer gorau rhyngwladol.
  • Mae ein hymagwedd at wella ansawdd sy›n arwain y byd yn hwyluso meincnodi rhyngwladol a phartneriaethau rhyngwladol darparwyr, yn ogystal â ffurfio sail i ymdrechion prifysgolion a cholegau eu hunain i ddarparu addysg o'r radd flaenaf.
  • Rydym yn tanategu addysg drawswladol y DU ac yn chwarae rhan amlwg wrth wella enw da sector y DU a meithrin perthnasoedd.

    ""

    Mae QAA yn unigryw

      • Enwogrwydd rhyngwladol: Mae ein harbenigedd yn adlewyrchu ein hanes 25 mlynedd fel corff ansawdd annibynnol, diduedd sy’n arwain y byd,ac sydd wedi helpu i sefydlu systemau ansawdd ledled y byd.
      • Myfyrwyr fel partneriaid: Mae myfyrwyr a dysgwyr yn rhan annatod o’n holl waith – o’n timau adolygu i helpu i lunio ein canllawiau – ac maent wedi’u gwreiddio yn ein llywodraethiant a’n strwythurau.
      • Ar draws y DU: OMae ein rôl DU-gyfan a’n gwarchodaeth o gyfeirbwyntiau’n darparu’r llinyn cyffredin sy’n rhedeg drwy’r ymagweddau at ansawdd a safonau yng ngwledydd y DU.
      • Cydweithredol ddeallus: Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau, weithiau drwy heriau adeiladol, gan eu cynorthwyo gyda gwelliant tra’n parchu eu hannibyniaeth academaidd.
        • Cysylltiadau unigryw: Mae gennym berthnasoedd agos ag asiantaethau ansawdd a chyrff partner yn y DU ac yn fyd-eang, a gyda chyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (PSRBs) y byddwn yn dod â hwy ynghyd yn rheolaidd er budd prifysgolion, colegau a llywodraethau.
        • Mandad gan y sector: Rydym yn elusen sydd â chylch gorchwyl sy’n deillio o’r sector ei hun. Cawsom ein creu ac rydym yn eiddo i gyrff cynrychioli’r sector ar ran y sector ehangach. Felly mae Aelodaeth QAA yn ymgorffori ymrwymiad cyfunol y sector i ansawdd a safonau.

        Beth sydd wedi newid yn ein strategaeth?

         

        1. Mae ein rôl yn y DU yn datblygu.

         

        Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydym yn gweithio ar y cyd â’r sector i ddiwallu anghenion pob gwlad.

         

        Yn Lloegr, mae ein rhaglen aelodaeth hynod lwyddiannus yn darparu ffynhonnell gynhwysfawr o adnoddau i arweinwyr strategol, arbenigwyr ym maes ansawdd a myfyrwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

         

        Ar ôl penderfynu camu i ffwrdd o rôl ar wahân yn darparu adroddiadau ar gyfer rheoleiddiwr Lloegr, byddwn yn gallu ychwanegu at yr adnoddau hyn gyda gwasanaethau newydd, yn seiliedig ar ein profiad unigryw o helpu sefydliadau i fodloni a chydbwyso gofynion rheoleiddwyr a PSRBs.

         

        Mae hyn, ynghyd â’n harbenigedd ym maes ansawdd a safonau, yn ein rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu prifysgolion a cholegau i lywio a bodloni’r gofynion hynny, tra’n cyflawni eu huchelgeisiau eu hunain ar gyfer gwella ansawdd – ac i ddangos tystiolaeth o hyn mewn ffyrdd arloesol sy’n mynd y tu hwnt i weithgarwch sicrwydd traddodiadol.

        news image individual laptop

        2. Mae gorwelion QAA yn ehangu y tu hwnt i addysg uwch i wasanaethu’r sector trydyddol ehangach.

         

        Ym mhob gwlad yn y DU, mae addysg uwch ac addysg bellach yn dod at ei gilydd fwyfwy i gefnogi dysgu gydol oes, ac mewn ymateb i anghenion economaidd lleol a rhanbarthol. Bydd hyn yn dod â ffocws newydd ar sgiliau, cymwysterau technegol a galwedigaethol, a gwell profiad trosglwyddo i ddysgwyr.

         

        Mae QAA wedi sefydlu arbenigedd mewn credydau a micro-gymwysterau, ac wedi gweithio ers tro gyda cholegau addysg bellach sy›n darparu addysg uwch, ond rydym yn mynd ymhellach yn awr drwy baratoi ar gyfer tirwedd addysg newydd.

         

        Ar draws y sector trydyddol cyfan, bydd QAA yn gwasanaethu anghenion cyrff cyllido a rheoleiddio, prifysgolion a cholegau, yn ogystal â myfyrwyr a dysgwyr, ble bynnag y mae angen arbenigedd corff ansawdd annibynnol.

        news image apprentice

        3. Mae ein gwaith rhyngwladol yn tyfu ac yn esblygu,

         

         

        Gall llywodraethau a phartneriaid rhyngwladol gael amgylchedd ansawdd y DU yn gymhleth i’w lywio, yn enwedig lle mae polisi’n amrywio. Mae enw da a safle QAA fel asiantaeth ansawdd o safon fyd-eang yn ein galluogi i ddarparu cyngor, mewnwelediad a sicrwydd ynghylch cryfderau parhaus ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch y DU.

         

        Rydym yn defnyddio ein harbenigedd a gydnabyddir yn fyd-eang fel sail i ffurfio a pharhad partneriaethau rhyngwladol, ac i gynorthwyo sector y DU wrth iddo groesawu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol ac ymestyn ei gyrhaeddiad drwy addysg drawswladol. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein harlwy yn y meysydd hyn.

         

        Ar yr un pryd, mae proffil rhyngwladol QAA ei hun yn parhau i dyfu, ac mewn nifer cynyddol o farchnadoedd, mae galw mawr am ein Hadolygiad Ansawdd Rhyngwladol ac Achrediad Rhaglenni Rhyngwladol. Byddwn yn ehangu ein darpariaeth o’r gwasanaethau hyn mewn ffordd sy’n llywio ein gwaith yn y DU wrth i ni ddysgu o arfer gorau rhyngwladol, ac mae hynny’n ein helpu i gynnig cymorth mwy cost-effeithiol i sector y DU.

        ""

        Lawrlwythwch gopi o'n Strategaeth




        Gwybodaeth bellach

         

        Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch Strategaeth QAA ar gyfer 2023-27, gan gynnwys atebion i gwestiynau ynglŷn â’n rôl esblygol yn y sector addysg uwch a diagram sy’n manylu ar ein lle ymysg asiantaethau’r sector yn y DU.