Rydym yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gyflwyno gweithgareddau â’r nod o wella profiad myfyrwyr yng Nghymru. Mae QAA yn derbyn arian ar gyfer y gwaith hwn drwy drefniadau grant. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth ac allbynnau o waith a gyflawnwyd gan QAA ac a ariannwyd gan CCAUC.
Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru (RhUAC)
Ym mis Awst 2021, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sicrhau ymrwymiad llawn i Siarter Uniondeb Academaidd QAA. Ym mis Medi 2021, sefydlwyd Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru (RhUAC) a ariennir gan CCAUC i adeiladu ar yr ymrwymiad hwn.
Caiff y Rhwydwaith ei gadeirio gan yr Athro Michael Draper (Prifysgol Abertawe) a Dr Mike Reddy (Prifysgol De Cymru) sydd hefyd yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU
Mae RhUAC yn cynrychioli staff a myfyrwyr o bob darparydd addysg uwch a reoleiddir ac a ariennir yng Nghymru, sy'n cynnwys y naw prifysgol a dau goleg addysg bellach, yn ogystal ag UCM Cymru. Mae'r Rhwydwaith wedi ymrwymo i hyrwyddo uniondeb academaidd, brwydro yn erbyn camymddwyn academaidd, a hyrwyddo arferion asesu diledryw a chynhwysol.
Digwyddiad Symposiwm Uniondeb Academaidd
Ar 9fed Mehefin 2023, cynhaliodd RhUAC symposiwm uniondeb academaidd ar-lein yn seiliedig ar themâu’r Rhwydwaith. Roedd y digwyddiad yn cynnwys chwe gweithdy/cyflwyniad o bob rhan o Gymru a Lloegr, ynghyd â phanel yn canolbwyntio ar edrych ymlaen at y dyfodol.
- Uniondeb Academaidd yn y Brifysgol Agored: Ymateb i her gynyddol | Richard Marsden ac Emma Worth, Y Brifysgol Agored
- Agwedd wasgaredig at AI (Deallusrwydd Artiffisial) ac uniondeb academaidd | Neil Pickles, Amy Rattenbury, Daniel Knox a Cerys Alonso, Prifysgol Wrecsam
- Clarify: Teclyn meta ar gyfer canfod golygiadau anghyffredin ym metadata dogfennau MS Office | Clare Johnson a Mike Reddy, Prifysgol De Cymru
- Deallusrwydd artiffisial, asesu ac uniondeb academaidd: Gweithio gyda myfyrwyr fel cyd-gynllunwyr | Jack Medlin, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Keele
- Tawelu'r sgwrs: Datblygu canllawiau sefydliadol ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial model iaith mawr | Michael Draper, Prifysgol Abertawe
- Datgloi ymchwil uniondeb academaidd gan ddefnyddio efelychiadau, cymorth AI a ChatGPT | Thomas Lancaster, Coleg Imperial Llundain
- Trafodaeth banel: Edrych ymlaen at heriau a chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer asesu ac uniondeb academaidd (Mike
Reddy, Prifysgol De Cymru; Eve Alcock, QAA; James Wood, Prifysgol Bangor; Steven Kehoe, Grŵp Llandrillo Menai; a Kate Gilliver, Prifysgol Caerdydd).
Prosiectau Gwelliant Cydweithredol
Drwy drefniadau grant gyda CCAUC, mae QAA wedi cynnig cymorth ar gyfer dau Brosiect Gwelliant Cydweithredol yn 2022-23 ym meysydd dysgu digidol a micro-gymwysterau.
Y Gydweithfa Gymreig: Gwella Dysgu ac Addysgu Digidol
Mae’r prosiect dysgu drwy drochi, Y Gydweithfa Gymreig: Gwella Dysgu ac Addysgu Digidol, wedi’i ddatblygu gan Rwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru, i fwrw ymlaen â gwaith y Gronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch (HEIR) CCAUC. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’n cynnwys holl brifysgolion Cymru. Nod y prosiect yw cynnal a gwella dysgu digidol ymhellach, gyda ffocws penodol ar ddysgu drwy drochi. Datblygodd y prosiect ddigwyddiad rhwydweithio cydweithredol ar gyfer dysgu drwy drochi, i gynorthwyo â dysgu a rhannu arfer ar draws Cymru gyfan. Cynhaliwyd y digwyddiad rhwydweithio ar 21ain Mehefin 2023 yn Y Fforwm ar Gampws Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae darparwyr a gymerodd ran yn y digwyddiad wrthi ar hyn o bryd yn datblygu astudiaethau achos, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Wefan QAA yn 2023-24. Darllenwch blog Steph Tindall am rai o’r uchafbwyntiau a phynciau trafod allweddol o’r digwyddiad.
Bydd y prosiect a’r rhwydwaith hwn yn parhau drwy gyllid Grant CCAUC yn 2023-24.
Gweithredu Fframwaith Cynllunio Micro-gymwysterau
Mae'r prosiect micro-gymwysterau, Gweithredu Fframwaith Cynllunio Micro-gymwysterau, wedi cael ei arwain gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam a Choleg Gŵyr Abertawe. Prif nod y prosiect oedd datblygu dealltwriaeth o'r anawsterau systemig a fydd yn effeithio ar ddatblygiad y ddarpariaeth o ficro-gymwysterau mewn addysg uwch, drwy fireinio model ar gyfer cynllunio, cymeradwyo a gweithredu micro-gymwysterau. Cyflwynodd arweinydd y prosiect yn y weminar micro-gymwysterau ar 24ain Mai.
Arsylwi Addysgu gan Gymheiriaid
Cynhaliodd QAA brosiect gwelliant a oedd yn archwilio'r arfer presennol o arsylwi addysgu gan gymheiriaid yng Nghymru. Mae’r prosiect yn cynnwys cyhoeddi adroddiad trosolwg sy’n ymdrin ag arfer yn y darparwyr a reoleiddir ac a ariennir yng Nghymru, a sut mae hyn yn cymharu ag arfer ledled y DU.
Er mwyn cynnal y prosiect, dosbarthodd QAA arolwg i bob un o'r 11 darparydd (naw sefydliad AU a dau goleg AB) ac yn dilyn hynny cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau gyda'r darparwyr hyn. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys ymchwil wrth ddesg yn rhoi sylw i arfer ar draws rhannau eraill o'r DU, gan gynnwys 25 sefydliad AU o wahanol strwythur, maint a math.
Mae'r prosiect hefyd wedi cynhyrchu rhestr wirio o gwestiynau allweddol i'w hystyried wrth weithredu cynllun arsylwi addysgu gan gymheiriaid.
Weminar
Yn ogystal â’r adroddiad, cynhaliwyd gweminar ddydd Mawrth 27ain Mehefin i rannu canfyddiadau’r prosiect a rhannu arferion.
Roedd y weminar yn cynnwys y cyflwyniadau canlynol:
Micro-gymwysterau
Cynhaliodd QAA brosiect gwelliant yn archwilio arfer cyfredol yn y sector mewn perthynas â micro-gymwysterau, gan adeiladu ar astudiaethau achos a ddatblygwyd gan CCAUC a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022. Archwiliodd y prosiect y defnydd presennol o Ddatganiad Nodweddion Micro-gymwysterau QAA (cyhoeddwyd Mai 2022).
Wrth fynd ati i gynnal y prosiect, dosbarthodd QAA arolwg i bob un o'r darparwyr a oedd yn cymryd rhan (naw sefydliad AU a dau goleg AB) ac yn dilyn hynny cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau gyda'r darparwyr hyn.
Roedd y sgyrsiau’n gyfle i archwilio rhai o'r dulliau yn fwy manwl; unrhyw heriau a ffyrdd yr eir i'r afael â hwy; y defnydd o Ddatganiad Nodweddion Micro-gymwysterau QAA ac a fyddai unrhyw ddiwygiadau iddo yn ddefnyddiol ar hyn o bryd; ac unrhyw feysydd eraill a allai fod yn werthfawr i'r sector eu harchwilio er mwyn gwella arfer.
Weminar
Yn ogystal â hyn, cynhaliodd y prosiect ddwy weminar: