Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Yr Adolygiad Gwella Ansawdd (Adolygiad GA) yw'r dull yr ydym yn ei ddefnyddio i adolygu darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn rhan o'r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru. Mae'n ddull nodedig o adolygu sefydliadau, a ddatblygwyd i ymdrin â chyd-destun arbennig y sector addysg uwch yng Nghymru.


Mae Adolygiad GA yn darparu sicrwydd ansawdd ac yn cefnogi gwella ansawdd, gan sicrhau cyrff llywodraethu, myfyrwyr a’r cyhoedd yn ehangach bod darparwyr yn bodloni gofynion Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Mae Adolygiad GA yn asesu darparwyr yn erbyn gofynion sylfaenol y cytunwyd arnynt a'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG).

 

Mae llawlyfr diwygiedig wedi'i gyhoeddi yn Awst 2023 yn dilyn proses o ymgynghori helaeth gyda'r sector. Arweiniodd y broses hon at ymgynghoriad ar lawlyfr drafft ym Mai a Mehefin 2023. Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a sut mae QAA wedi ystyried y rhain wrth lunio'r Llawlyfr terfynol wedi'i gyhoeddi.

 

Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ac i roi ystyriaeth i ofynion a disgwyliadau'r Safonau Iaith Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch Atodiad 3 y Llawlyfr. Gweler ein gwaith yng Nghymru.

 

Y Llawlyfr gyda Chanllawiau

Canlyniadau'r ymgynghoriad ar y fersiwn drafft o'r Llawlyfr ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd (Cymru)

Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2023

Rhestr wirio o gyfrifoldebau ar gyfer darparwyr sy'n darparu cyrsiau gradd a ddyfernir gan Pearson Education Ltd

Dyddiad cyhoeddi: 19 Tach 2020

Sail Wybodaeth Adolygiadau yng Nghymru

Mae’r sail wybodaeth hon wedi’i datblygu o ddeilliannau’r Adolygiad Gwella Ansawdd a’r Adolygiad Ansawdd Porth - Cymru rhwng 2017 a’r presennol. Mae’r sail wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am y dulliau adolygu gan gynnwys meysydd beirniadaeth, categoreiddio canmoliaeth, cadarnhau, meysydd ar gyfer datblygu a gwelliannau penodol, a newidiadau yn ystod cylchred. Gall defnyddwyr ddidoli’r canlyniadau fesul themâu o Gôd Ansawdd y DU yn ogystal â chategorïau ychwanegol.


Amserlen QER

Er bod y flwyddyn academaidd ar gyfer adolygiad wedi'i chytuno, mewn amgylchiadau eithriadol, gall QAA ddiwygio'r amserlen.

Adolygiad Gwella Ansawdd (QER): Sefydliadau y bwriedir eu hadolygu ym mhob blwyddyn academaidd 2024-25 i 2027-28
2024-25
Prifysgol Bangor 
Prifysgol Wrecsam 
2025-26
Prifysgol Caerdydd 
Prifysgol Abertawe
 
2026-27
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
 
Grŵp Colegau NPTC
 
Prifysgol De Cymru
 
2027-28
Prifysgol Aberystwyth
 
Grŵp Llandrillo Menai 
Y Brifysgol Agored
 
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant