Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Cawn ein hariannu drwy nifer o sianelau, yn cynnwys:


  • ffioedd aelodaeth a delir gan ddarparwyr addysg uwch
  • contractau a chytundebau gyda'r cyrff a'r cynghorau cyllido yn y DU y mae QAA yn rhoi adroddiadau blynyddol iddynt
  • gwaith datblygu busnes, gwaith ymgynghori a chontractau preifat yn y DU a thrwy'r byd i gyd
  • ffioedd statudol a delir gan ddarparwyr am waith a wneir ar ran y cyrff rheoleiddio yn Lloegr
  • ffioedd a chostau cynnal a delir gan bob darparwr addysg uwch sy'n gwneud cais am oruchwyliaeth addysgol o dan reoliadau mewnfudo'r Swyddfa Gartref.

Mae ein Bwrdd yn gyfrifol am reoli ein materion ariannol, ac am fonitro ein perfformiad yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt ar lefel gorfforaethol.


Rydym yn atebol i'n haelodau ac i ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid eraill. Ein nod yw defnyddio ein hadnoddau'n bwrpasol ac yn effeithiol a gwneud ein gwaith yn onest ac yn ddiduedd drwy roi gwybodaeth a chyngor sy'n awdurdodol a dibynadwy.

Ein Hadroddiad Blynyddol a'n Datganiadau Ariannol