Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2023
Mae'r Côd Ansawdd yn cynrychioli dealltwriaeth gyffredin ynghylch arfer o ran ansawdd ar draws sector addysg uwch y DU. Mae'n diogelu buddiannau'r cyhoedd a myfyrwyr, ac yn hyrwyddo enw da addysg uwch y DU sy'n arwain y byd am ansawdd.
Datblygwyd yr argraffiad hwn o'r Côd Ansawdd gan QAA ar ran Pwyllgor Sefydlog y DU ar gyfer Asesu Ansawdd (UKSCQA) yn 2018. Mae’n berthnasol i ddarparwyr addysg uwch sydd wedi’u lleoli ym mhob un o bedair gwlad y DU. Mae’n gyfeirbwynt allweddol ar gyfer y trefniadau ansawdd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn Lloegr, nid yw’r Côd Ansawdd yn rheoleiddiol, ond gall darparwyr ei ddefnyddio fel sail i’w hymagwedd at ansawdd, fel ffordd o ddarparu cymaroldeb ar draws y DU ac i gynorthwyo gwelededd rhyngwladol.

Mae Côd Ansawdd 2024 ar hyn o bryd yn mynd trwy gyfnod pontio o ran ei weithredu. I gael gwybodaeth am ba fersiwn i'w defnyddio ym mhob un o wledydd y DU, ac ar gyfer Adolygiad Goruchwyliaeth Addysgol, ewch i dudalen y Côd Ansawdd lle byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolen i Gôd Ansawdd 2024 pe bai ei angen arnoch.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2023
Disgwyliadau - sy'n mynegi'n gryno’r deilliannau y dylai darparwyr eu cyflawni wrth osod a chynnal safonau eu dyfarniadau, ac ar gyfer rheoli ansawdd eu darpariaeth.
Arferion Craidd a Chyffredin – sy’n cynrychioli ffyrdd effeithiol o weithio fel sail i gyflawni’r Disgwyliadau ac a fydd yn sicrhau deilliannau cadarnhaol i fyfyrwyr. Mae arferion craidd a chyffredin yn parhau i fod yn rhan o'r fframweithiau ansawdd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond yn Lloegr mae angen i sefydliadau gydymffurfio ag amodau cofrestru fframwaith rheoleiddio'r Swyddfa Myfyrwyr
Cyngor a chanllawiau - sy’n cynnwys themâu a ddatblygwyd gan y sector, ac maent wedi'u cynllunio i gynorthwyo darparwyr i ddatblygu a chynnal arferion sicrhau ansawdd effeithiol. Nid yw hyn yn orfodol i ddarparwyr, ond mae'n dangos ystod o ddulliau posibl.
Er nad yw'r Côd Ansawdd yn cynrychioli gofynion rheoleiddiol ar gyfer sefydliadau yn Lloegr, gall y darparwyr hynny ddewis defnyddio'r Côd Ansawdd i fodloni eu hunain bod eu prosesau ansawdd yn cefnogi gwelliant uwchlaw'r waelodlin.
Mae'r adran Cyngor a Chanllawiau wedi'i rhannu'n 12 Thema, ac fe’i bwriadwyd i gynorthwyo darparwyr newydd a’r rhai sy’n gweithredu eisoes i fodloni gofynion gorfodol y Côd Ansawdd. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â’r sector addysg uwch ac mae’n cynnwys egwyddorion arweiniol, cyngor ymarferol ac adnoddau pellach. Nid yw'r Cyngor a Chanllawiau’n orfodol i ddarparwyr, ond mae'n dangos dulliau gweithredu posibl. (Sylwer mai dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael.)
Mae'r ddogfen hon yn dangos sut mae'r safonau a nodir yn y Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG 2015) yn mapio i'r Côd Ansawdd a chyfeirbwyntiau cysylltiedig. Gall darparwyr ddefnyddio'r tabl i sicrhau bod eu prosesau ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd yn gyson â'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd. (Sylwer bod y ddogfen hon ar gael yn Saesneg yn unig.)
Dyddiad cyhoeddi: 20 Meh 2022