Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Diffiniadau

Mae QAA yn gwahaniaethu rhwng apeliadau (a adnabyddir hefyd fel gosodiadau) a chwynion, fel a ganlyn:


  • Apêl (neu osodiad) yw pan fydd sefydliad yn herio canlyniad adolygiad QAA neu benderfyniad arall a wnaed gan QAA.
  • Pan fydd rhywun yn cwyno i QAA, maent yn mynegi eu bod yn anfodlon â'r profiad a gawsent wrth ymwneud ag QAA. Gallent wneud cwynion ar ran eu sefydliad.

Mae apeliadau'n heriau penodol i benderfyniadau penodol a wneir o ganlyniad i adolygiad o dan un o'r dulliau adolygu QAA sydd wedi eu rhestru isod:


  • Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol (Adolygiad GorA, neu EOR yn Saesneg)
  • Adolygiad Gwella Ansawdd Addysg Drydyddol (Adolygiad GAAD, neu TQER yn Saesneg)
  • Adolygiad Ansawdd Porth: Cymru (Adolygiad APC, neu GQRW yn Saesneg)
  • Adolygiad Gwella Ansawdd (Adolygiad GA, neu QER yn Saesneg)
  • Achrediad Ansawdd Rhyngwladol (Achrediad ARh, neu IQA yn Saesneg) / Adolygiad Ansawdd Rhyngwladol (Adolygiad ARh, neu IQR yn Saesneg)
  • Achrediad Rhyngwladol i Raglenni (Achrediad RhR, neu IPA yn Saesneg)

Rhagor o wybodaeth