Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

 

Rydym eisiau i bawb sy'n mynd i wefan QAA deimlo'n gyfforddus a chael profiad gwobrwyol, beth bynnag fo'u gallu a pha dechnoleg bynnag a ddefnyddient.

 

Rydym wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Shaw i wneud y wefan yma'n haws mynd i mewn iddi a'i defnyddio, gan ddilyn y Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys ar y We, argraffiad 2.0 (Web Content Accessibility Guidelines (WCAG). Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut i wneud cynnwys ar y we'n fwy hygyrch i bawb. Rydym yn falch o'r ffaith bod ein gwefan wedi derbyn ardystiad safon AA.

 

Yn anffodus, nid yw wedi bod yn bosibl gwneud pob un o'n ffeiliau PDF a'n cynnwys amlgyfrwng yn gwbl hygyrch. Os byddwch angen unrhyw wybodaeth mewn ffurf arall, neu os oes gennych unrhyw sylwadau am hygyrchedd ein gwefan, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Nodwch os gwelwch yn dda bod yr holl arwyddion i raglenni darllen sgrin sy'n defnyddio'r system labelu ARIA i'w cael yn y Saesneg yn unig (gan gynnwys mewn fersiynau Cymraeg o dudalennau gwe).