Ar ran CCAUC, rydym yn gwneud Adolygiadau Ansawdd Porth o ddarparwyr addysg uwch i brofi eu darpariaeth addysg uwch yn erbyn y gofynion rheoleiddiol sylfaenol yng Nghymru o ran ansawdd. Rydym hefyd yn ail brofi yn erbyn agweddau'r gofynion rheoleiddiol sylfaenol sy'n ymwneud ag ansawdd ar ddiwedd cyfnod o bedair blynedd, pan fydd y darparwr yn gofyn i ni wneud hynny.
Nod cyffredinol Adolygiad Ansawdd Porth yw rhoi barn arbenigol i CCAUC am drefnau'r darparwr ar gyfer sicrhau ansawdd ei ddarpariaeth addysg uwch.
Lluniwyd y broses Adolygiad Ansawdd Porth i:
- sicrhau bod buddiannau'r myfyrwyr yn cael eu diogelu
- roi cyngor arbenigol i sicrhau bod enw da system addysg uwch y DU yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys diogelu safonau academaidd
- bennu meysydd sydd angen eu datblygu a/neu welliannau penodol a fydd yn helpu'r darparwr i fodloni'r gofynion rheoleiddiol sylfaenol.
- Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y bydd CCAUC yn defnyddio canlyniadau Adolygiadau Ansawdd Porth i'w cael ar wefan CCAUC.
LLAWLYFR GYDA CHANLLAWIAU
Os byddwch yn penderfynu mynd drwy'r broses Adolygiad Ansawdd Porth, anfonwch e-bost at CCAUC ar cyngorrheoleiddio@hefcw.ac.uk os gwelwch yn dda.
Bydd angen i chi roi gwybod i QAA hefyd am eich penderfyniad i gomisiynu Adolygiad Ansawdd Porth. Anfonwch e-bost at QAA ar ARCadmin@qaa.ac.uk os gwelwch yn dda.
Sail Wybodaeth Adolygiadau yng Nghymru
Mae’r sail wybodaeth hon wedi’i datblygu o ddeilliannau’r Adolygiad Gwella Ansawdd a’r Adolygiad Ansawdd Porth - Cymru rhwng 2017 a’r presennol. Mae’r sail wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am y dulliau adolygu gan gynnwys meysydd beirniadaeth, categoreiddio canmoliaeth, cadarnhau, meysydd ar gyfer datblygu a gwelliannau penodol, a newidiadau yn ystod cylchred. Gall defnyddwyr ddidoli’r canlyniadau fesul themâu o Gôd Ansawdd y DU yn ogystal â chategorïau ychwanegol.