Manyleb person Cadeiryddion Dirprwy Gadeiryddion Grwpiau Cynghori ar Ddatganiadau Meincnod Pwnc QAA
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2025
Mae QAA wedi ymrwymo i sicrhau bod rolau'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd yn adlewyrchu amrywioldeb cyfoethog y cymunedau pwnc y maent yn eu cynrychioli. Rydym yn cydnabod manteision cadarnhaol cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant.
Ein nod yw bod yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas, ac i bawb deimlo eu bod yn cael eu parchu, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, waeth beth yw eu hunaniaeth neu eu cefndir, a’u bod yn gallu rhoi o’u gorau. Rydym yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau y mae amrywioldeb o ran cefndir, profiadau, safbwyntiau a sgiliau yn eu cynnig ac yn annog ymgeiswyr cymwys yn gryf i wneud cais.
Mae rolau'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd yn gofyn am lefel uchel o ymrwymiad i sicrhau bod y Datganiad Meincnod Pwnc (SBS) yn cael ei ddatblygu a'i gyhoeddi o fewn amserlen y cytunwyd arni. Bydd gofyn i gadeiryddion gadeirio cyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar-lein a dirprwyo cyfrifoldebau am ysgrifennu adrannau o'r SBS i is-grwpiau o fewn y prif Grŵp Cynghori.
Mae profiad o olygu, cyfuno nifer o gyfraniadau i ffurfio un adroddiad, ysgrifennu'n glir ac yn gryno ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol, a gweithio o fewn terfynau amser yn elfennau hanfodol o rôl y Cadeirydd.
Chwefror 2026 | Cyfarfodydd cyntaf y Grŵp Cynghori |
Chwefror-Gorffennaf 2026 | Cyfnod adolygu a drafftio gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd (chwech fel arfer) y Grŵp Cynghori |
Medi-Tachwedd 2026 | Cyfnod ymgynghori gan gynnwys ymgynghoriad agored â'r gymuned pwnc ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y maes |
Tachwedd 2026-Ionawr 2027 | Dadansoddiad o'r ymatebion ar ôl yr ymgynghoriad ac addasu’r Datganiad yn unol â hynny |
Mawrth-Ebrill 2027 | Cyhoeddi Datganiadau diwygiedig |
Peidiwch â chyflwyno rhestr o rolau a chyhoeddiadau blaenorol yn unig, ond yn hytrach defnyddiwch y gofod sydd ar gael i amlygu’r enghreifftiau gorau o dystiolaeth sy'n ategu eich bod yn meddu ar y nodweddion a'r profiad gofynnol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2025
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2025