Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Beth yw RhUAC?

Mae Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru (RhUAC) – a ariennir gan Medr – yn rhwydwaith cydweithredol ar draws Cymru gyfan o broffesiynwyr academaidd a sicrhau ansawdd sy'n canolbwyntio ar uniondeb academaidd yng Nghymru, arferion asesu cynhwysol, a mynd i'r afael â chamymddwyn academaidd ar draws sector addysg drydyddol Cymru.

 

Ym mis Awst 2021, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo'n llawn i Siarter Uniondeb Academaidd QAA. Sefydlwyd RhUAC y mis canlynol, gyda chyllid gan CCAUC, i adeiladu ar yr ymrwymiad hwn. Mae'r Rhwydwaith yn parhau i gael ei gefnogi gan Medr, gan alluogi cydweithio parhaus ar asesu ac uniondeb academaidd ar draws prifysgolion a cholegau Cymru. 

 

Pam mae gwaith RhUAC yn bwysig?

Mae dyfodiad Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Gen AI) mewn addysg, ynghyd â dadl gynyddol am lesiant myfyrwyr a goblygiadau moesegol asesu - yn enwedig ers pandemig Covid-19 - wedi arwain at graffu o’r newydd ar uniondeb ac arferion asesu.

 

Gyda chefnogaeth Medr, mae RhUAC yn dod â darparwyr ynghyd i archwilio'r materion cymhleth hyn a chanfod dulliau sy'n gweithio i fyfyrwyr a sefydliadau ar draws addysg drydyddol yng Nghymru.

 

Pwy sy'n arwain RhUAC?

Caiff y Rhwydwaith ei gadeirio gan yr Athro Michael Draper (Prifysgol Abertawe) a Dr Mike Reddy (Prifysgol De Cymru), sydd hefyd yn gwasanaethu ar Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU.

 

Pwy all ymuno â RhUAC?

Mae RhUAC ar agor i bob darparydd addysg drydyddol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae 16 o ddarparwyr - yn golegau a phrifysgolion - yn cymryd rhan, ochr-yn-ochr â chynrychiolwyr o UCM Cymru a QAA. 

 

Sut allaf i ddarganfod mwy?

I ddysgu mwy, cysylltwch â Richard Buckley, Arbenigwr Sicrhau a Gwella Ansawdd (Cymru a Gogledd Iwerddon), yn r.buckley@qaa.ac.uk.

Fel arall, defnyddiwch ein mewnflwch a rennir: nations@qaa.ac.uk.

 


Digwyddiad Symposiwm Uniondeb Academaidd

Symposiwm RhUAC 2025

Ar 4ydd Mehefin 2025, cynhaliodd RhUAC eu trydydd Symposiwm blynyddol, a ariannwyd gan Medr. 

 

Agorodd y digwyddiad gyda phrif anerchiad gan yr Athro Phil Newton, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a gyflwynodd yr achos dros roi’r gorau i arholiadau ar-lein heb oruchwyliaeth fel dull asesu.

 

Rhoddwyd sylw i faterion allweddol mewn sesiynau eraill gan gynnwys:

  • Goblygiadau penodol Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Gen AI) ar gyfer astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg 
  • Strategaethau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth i gynnal uniondeb academaidd yn oes Gen AI
  • Ymatebion sefydliadol gan un brifysgol yng Nghymru i'r heriau a achosir gan Gen AI 
  • Ymchwiliad diweddar i'r defnydd moesegol o Gen AI fel teclyn ar gyfer adborth
  • Cwestiynau ynghylch tosturi a dewis wrth ddylunio asesiadau

Daeth y diwrnod i ben gyda myfyrdodau ar yr angen i fesur faint o straen mae arferion asesu’n ei greu yng ngoleuni'r heriau yn sgil ddeallusrwydd artiffisial mewn addysg drydyddol a'r galw cynyddol am dosturi. Cytunodd y cyfranogwyr fod yn rhaid i'r sector fod yn barod i ailystyried arferion uniondeb ac asesu yn radical. 

 

Diolch yn fawr i Medr am ariannu'r digwyddiad, i'n siaradwyr rhagorol, ac i'r holl gyfranogwyr am eu cyfraniadau meddylgar a bywiog.

 

Roedd y gweithdai yn cynnwys

Ar 6fed Mehefin 2024, cynhaliodd RhUAC symposium uniondeb academaidd ar-lein yn seiliedig ar themâu’r Rhwydwaith. Roedd y digwyddiad yn cynnwys chwe gweithdy/cyflwyniad o wahanol rannau o Gymru a Lloegr, ac yn rhyngwladol, ynghyd â phanel yn canolbwyntio ar edych tua’r dyfodol.

Roedd y cyflwyniadau, y gweithdai a'r trafodaethau panel yn cynnwys


Ar 9fed Mehefin 2023, cynhaliodd RhUAC symposiwm uniondeb academaidd ar-lein yn seiliedig ar themâu’r Rhwydwaith. Roedd y digwyddiad yn cynnwys chwe gweithdy/cyflwyniad o bob rhan o Gymru a Lloegr, ynghyd â phanel yn canolbwyntio ar edrych ymlaen at y dyfodol.

Roedd y cyflwyniadau, y gweithdai a'r trafodaethau panel yn cynnwys

  • Uniondeb Academaidd yn y Brifysgol Agored: Ymateb i her gynyddol
    Richard Marsden ac Emma Worth, Y Brifysgol Agored
  • Agwedd wasgaredig at AI (Deallusrwydd Artiffisial) ac uniondeb academaidd 
    Neil Pickles, Amy Rattenbury, Daniel Knox a Cerys Alonso, Prifysgol Wrecsam
  • Clarify:  Teclyn meta ar gyfer canfod golygiadau anghyffredin ym metadata dogfennau MS Office
    Clare Johnson a Mike Reddy, Prifysgol De Cymru
  • Deallusrwydd artiffisial, asesu ac uniondeb academaidd: Gweithio gyda myfyrwyr fel cyd-gynllunwyr 
    Jack Medlin, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Keele
  • Tawelu'r sgwrs: Datblygu canllawiau sefydliadol ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial model iaith mawr
    Michael Draper, Prifysgol Abertawe  
  • Datgloi ymchwil uniondeb academaidd gan ddefnyddio efelychiadau, cymorth AI a ChatGPT
    Thomas Lancaster, Coleg Imperial Llundain
  • Trafodaeth banel: Edrych ymlaen at heriau a chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer asesu ac uniondeb academaidd
    Mike Reddy, Prifysgol De Cymru; Eve Alcock, QAA; James Wood, Prifysgol Bangor; Steven Kehoe, Grŵp Llandrillo Menai; a Kate Gilliver, Prifysgol Caerdydd.