Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae micro-gymwysterau yn gymwysterau bach sy’n dwyn credyd, ac sy’n seiliedig ar ddeilliannau. Er mwyn ennill micro-gymhwyster, caiff dysgwyr eu hasesu i ddangos eu bod wedi cyflawni'r deilliannau dysgu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Datganiad o Nodweddion Micro-gymwysterau a'r Canllaw Arfer Da ar gyfer Micro-gymwysterau a Chymwysterau Bach yn yr Alban.

 

Grŵp Diddordeb Arbennig Micro-gymwysterau

Mae’r Grŵp Diddordeb Arbennig Micro-gymwysterau (MIC.SIG) a ariennir gan Medr yn Weithgor Trydyddol ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban dan gadeiryddiaeth Steve Osborne, Prif Ddarlithydd Datblygiad Proffesiynol a Gweithlu, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r MIC.SIG wedi'i sefydlu trwy drefniadau grant QAA gyda Medr i gynorthwyo â datblygiad a rhannu arfer ym maes micro-gymwysterau sy'n datblygu'n gyflym ar draws addysg uwch ac addysg bellach.

 

Prif amcanion MIC.SIG yw:

 

  • Cynorthwyo’r sector trydyddol i sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr micro-gymwysterau’n derbyn addysg o’r ansawdd uchaf posibl yn unol â darpariaeth addysg drydyddol draddodiadol arall.
  • Cyfrannu at ddatblygu rhagoriaeth, annibyniaeth, ac ymddiriedaeth yn y gwaith o sicrhau ansawdd a gwella darpariaeth ficro-gymwysterau gan ddefnyddio meysydd y mae QAA yn canolbwyntio arnynt, sef safonau, arweinyddiaeth a sicrwydd ansawdd a gwelliant fel sylfaen i arwain gwaith MIC.SIG.
  • Hyrwyddo defnydd o'r Datganiad o Nodweddion Micro-gymwysterau i ddarparwyr addysg drydyddol sy’n datblygu a chynnal darpariaeth ficro-gymwysterau, yn ogystal â chefnogi unrhyw ddatblygiadau pellach i’r Datganiad.

I helpu gyda'r nodau hyn, mae MIC.SIG yn cyfrannu at amryw o weithgareddau i ddarparu gwybodaeth a rhannu arfer da ar ddatblygu a darparu micro-gymwysterau. 

 

Gweler taflen ffeithiau a Cwestiynau Cyffredin i ddarparu disgrifiad byr o micro- gymwysterau i chi neu i'w rannu gyda chydweithwyr. Mae’n bosibl hefyd y bydd y tabl crynodeb byd-eang yn ddefnyddiol i chi fel trosolwg byr (iawn) o ficro-gymwysterau ledled y byd. 

 

Rydym ar hyn o bryd yn cynnal ein harolwg o Dirwedd 2025 er mwyn creu ciplun o’r micro-gymwysterau sydd ar gael ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a gweddill y DU. A fyddech cystal â chwblhau’r arolwg byr sydd ar agor tan 30ain Tachwedd.  

 

Rydym wedi cynnal tair gweminar ers Mai 2024 – mae crynodebau a recordiadau o’r rhain ar gael isod. 

 

 

Ymgysylltiad cyflogwyr

 

Er mwyn deall anghenion uwchsgilio'r gweithlu a DPP yn well, fe wnaethom wahodd cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (PSRBs) a chyflogwyr i rannu eu barn ar rôl a pherthnasedd micro-gymwysterau. Mae canlyniadau a mewnwelediadau a gasglwyd o'r arolygon hyn wedi'u crynhoi yn yr adroddiad byr hwn a byddant yn llywio ein gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn. Diolch i bawb a gyfrannodd.

 

Darllenwch yr adroddiad

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Siambrau Masnach Prydain i gynorthwyo ag ymwybyddiaeth cyflogwyr o ficro-gymwysterau - gallwch weld ein herthygl ar y cyd yma. 

Micro-gymwysterau: Y teclyn na chaiff ei ddefnyddio ddigon ar gyfer datblygu'r gweithlu

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tach 2025



Rydym hefyd wedi creu Taflen Ffeithiau fer ar Ficro-gymwysterau, ar gyfer cyflogwyr, i golegau a phrifysgolion ei rhannu â'u partneriaid ymysg cyflogwyr. Mae'r disgrifiad symlach o ficro-gymhwyster wedi'i gloi a gall darparwyr ychwanegu eu manylion cyswllt a'u logo at waelod y dudalen cyn ei rhannu â'u cysylltiadau.

 

Os ydych chi'n defnyddio'r daflen ffeithiau, byddem yn croesawu unrhyw adborth gennych chi a/neu'ch partneriaid ymysg cyflogwr. Cysylltwch â ni yn nations@qaa.ac.uk.

Astudiaethau achos


Rydym hefyd yn arddangos yr ystod eang o ddatblygiadau, ymarfer a modelau cyflwyno micro-gymwysterau trwy gyfres o astudiaethau achos. Bydd astudiaethau achos ychwanegol yn cael eu hychwanegu yma wrth iddynt ddod ar gael.

Micro-gymwysterau Meddwl Creadigol a Beirniadol

Gallwch ddarganfod sut y datblygodd Coleg Caeredin gyfres o gymwysterau unigryw i adeiladu meta-sgiliau a strategaethau meddwl ar gyfer dysgwyr ac addysgwyr – o ddisgyblion cynradd i hyfforddwyr yr heddlu.

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos (PDF)

Gwreiddio micro-gymwysterau o fewn strategaeth sgiliau

Gallwch ddysgu sut mae Coleg Cambria’n gwreiddio dysgu modiwlaidd yn ei Strategaeth Addysg Uwch a Sgiliau Technegol – gan agor llwybrau hyblyg wedi’u halinio â chyflogwyr ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion a’r gweithlu lleol.

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos (PDF)

Rhaglen Dysgu Cymunedol - Dysgu Gydol Oes

Yn y fenter gydweithredol hon gyda mudiadau cymunedol, mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu cyfres o ficro-gymwysterau i gynorthwyo dysgwyr o gymunedau difreintiedig i ganfod gwaith neu i gael lle mewn coleg neu brifysgol. 

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos (PDF)

Micro-Gymwysterau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i gyflwyno cyfres o fentrau micro-gymwysterau wedi’u hanelu at fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau digidol ledled Cymru. 

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos (PDF)

MSc Arfer Uwch a micro-gymwysterau

Â’r nod o gynnig cymorth i glinigwyr sy’n ymwneud â DPP, datblygodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd lwybr micro-gymwysterau hyblyg i’w rhaglen Arfer Uwch ôl-raddedig sefydledig.  

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos (PDF)

Ymagwedd strategol Prifysgol Bangor at ficro-gymwysterau

Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu ymagwedd ddeublyg o integreiddio micro-gymwysterau o fewn ei fframweithiau academaidd a strategol craidd.

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos (PDF)

 

Os ydych chi am gyflwyno astudiaeth achos ar gyfer micro-gymhwyster, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r ffurflen hon


Gweminarau


Cardiau-post micro-gymwysterau o’r Gwledydd: digwyddiad rhannu arfer gyda ffocws ar ddatblygiad micro-gymwysterau ledled y DU

 

Roedd ein weminar ar 3 Mehefin 2025 yn cynnwys llawer o astudiaethau achos o amgylch y DU. Roedd y siaradwyr yn:

 

· Hannah Amos, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
· Sheila Godfrey, Edinburgh College
· Casey Hopkins, Prifysgol Abertawe
· Emma Hurst, Coleg Cambria
· Lois McGrath,
Prifysgol Bangor
· Libby Shackels, Southern Regional College, sy'n cynrychioli colegau Gogledd Iwerddon.

 

Cadeiryddodd Steve Osborne, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.


   

 


Arfer micro-gymwysterau: Persbectifau rhyngwladol i ategu datblygiad ar draws gwledydd y DU

Rhannodd ein siaradwyr arbenigol, Mary Bishop a Rupert Ward, rywfaint o’r gwaith y maent wedi bod yn rhan ohono. Cadeiriodd Steve Osborne drafodaeth banel, ac yna cynhaliwyd sesiwn holi-ac-ateb gan y cyfranogwyr.

 

Arfer micro-gymwysterau: Persbectifau rhyngwladol i ategu datblygiad ar draws gwledydd y DU

Dyddiad cyhoeddi: 18 Maw 2025

Mae QAA yn ddiolchgar i’r cydweithwyr canlynol am eu cyfraniad at y weminar:

  • Yr Athro Mary Bishop, Cyfarwyddwr, Y Gymdeithas Feddygol Frenhinol
  • Steve Osborne, Prif Ddarlithydd Cyflogadwyedd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Yr Athro Rupert Ward, Deon Cyswllt (Rhyngwladol) ac Athro Arloesedd Dysgu ym Mhrifysgol Huddersfield.

Arfer micro-gymwysterau: polisi a safbwyntiau o wledydd y DU (Digwyddiad a ariennir gan CCAUC)

Bydd y weminar gyntaf hon, a drefnir gan y Rhwydwaith mewn partneriaeth â QAA, yn rhannu tirweddau polisi cyfredol ar draws addysg uwch ac addysg bellach mewn micro-gymwysterau a dysgu cyrsiau byr ar draws pob un o wledydd cartref y DU. Bydd trosolwg byr o’r arferion cyfredol a’r datblygiadau polisi ym mhob un o wledydd y DU, ac yna trafodaeth banel gyda’r cynrychiolwyr.

 

Mae QAA yn ddiolchgar i’r cydweithwyr canlynol am eu cyfraniad at y weminar:

  • Steve Osborne, Prif Ddarlithydd Datblygiad Proffesiynol a Gweithlu, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Yr Athro Laura Roberts, Athro Biowyddorau, Prifysgol Abertawe
  • Michael Bower, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Iwerddon y Brifysgol Agored
  • Jon Buglass, Is-Bennaeth Coleg Caeredin
  • Yr Athro Annabel Kiernan, Dirprwy Is-Ganghellor - Academaidd, Prifysgol Swydd Stafford

Prosiect gwella sy'n archwilio arfer cyfredol yn mewn perthynas â micro-gymhwysterau

Cynhaliodd QAA brosiect gwelliant yn archwilio arfer cyfredol yn y sector mewn perthynas â micro-gymwysterau, gan adeiladu ar astudiaethau achos a ddatblygwyd gan CCAUC a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022. Archwiliodd y prosiect y defnydd presennol o Ddatganiad Nodweddion Micro-gymwysterau QAA (cyhoeddwyd Mai 2022).

 

Wrth fynd ati i gynnal y prosiect, dosbarthodd QAA arolwg i bob un o'r darparwyr a oedd yn cymryd rhan (naw sefydliad AU a dau goleg AB) ac yn dilyn hynny cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau gyda'r darparwyr hyn.

 

Roedd y sgyrsiau’n gyfle i archwilio rhai o'r dulliau yn fwy manwl; unrhyw heriau a ffyrdd yr eir i'r afael â hwy; y defnydd o Ddatganiad Nodweddion Micro-gymwysterau QAA ac a fyddai unrhyw ddiwygiadau iddo yn ddefnyddiol ar hyn o bryd; ac unrhyw feysydd eraill a allai fod yn werthfawr i'r sector eu harchwilio er mwyn gwella arfer.



Weminars



Quality Assurance processes (24 May 2023)



Ymarferoldeb cyflwyno (7 Mehefin 2023)