Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Galluogi dysgwyr i symud ymlaen i addysg uwch ac o fewn addysg uwch (AU)



Yn ystod 2024-25, comisiynwyd QAA gan Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) i archwilio arfer a mentrau effeithiol, ar draws y sector trydyddol yng Nghymru, i gynorthwyo dysgwyr i symud ymlaen i raglenni lefel uwch a chefnogi eu gallu i ddysgu yn well. 

 

Yn sgil adolygiad o arfer llwyddiannus ledled y DU, a 14 astudiaeth achos a gomisiynwyd, nodwyd pum thema allweddol sy'n cynorthwyo â phontio llwyddiannus: 

  • Perthyn – mae ymdeimlad cryf o gymuned yn gwella dargadwedd a llesiant myfyrwyr. 

  • Datblygu sgiliau – mae cymorth academaidd cynnar ac integredig yn meithrin hyder a gallu. 

  • Gwybodaeth – mae gwybodaeth glir, gynhwysol a diduedd yn galluogi unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus ac yn cefnogi disgwyliadau realistig. 

  • Sefydlu – mae sefydlu strwythuredig a pharhaus yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu taith AU. 

  • Mentora gan gyfoedion – mae cefnogaeth gan gyd-fyfyrwyr yn gwella integreiddio cymdeithasol ac academaidd. 

Darllenwch yr adroddiad o'r gwaith hwn, a ddarperir yma ochr-yn-ochr â'r casgliad o astudiaethau achos gan ddarparwyr yng Nghymru. 

 


Trosglwyddo o fewn ac i mewn i Addysg Uwch

Dyddiad cyhoeddi: 07 Ion 2026


Canfyddiadau myfyrwyr o welliant

Comisiynwyd QAA Cymru gan CCAUC (a ddisodlwyd gan Medr 1af Awst 2024) i gynnal astudiaeth o ganfyddiadau myfyrwyr mewn darparwyr yng Nghymru o welliant. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfres o 12 grŵp ffocws gyda 40 o fyfyrwyr mewn tri choleg addysg bellach, saith sefydliad addysg uwch a dau ddarparydd amgen. Gellir gweld y canlyniadau allweddol a’r argymhellion o’r astudiaeth yn yr adroddiad isod.

 

Gwelliant cydweithredol

Roedd QAA Cymru yn falch iawn o gynnal gweminar fywiog ar 21 Mai 2024 er mwyn rhannu profiadau o welliant cydweithredol ar draws y DU. Roedd y weminar yn rhan o brosiect QAA a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i archwilio gwelliant cydweithredol, manteision a heriau gweithio ar y cyd. Roedd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw anawsterau sy’n ymwneud â gweithio ar draws ffiniau’r DU a’r berthynas rhwng partneriaid mewn colegau a phrifysgolion sy’n ymwneud â phrosiectau trydyddol. Gallwch ddod o hyd i grynodeb o'r pwyntiau trafod allweddol isod.


Crynodeb o'r digwyddiad: Gwelliant cydweithredol manteision a myfyrdodau o bob rhan o’r DU

Dyddiad cyhoeddi: 05 Meh 2024