Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

4 Rhagfyr 2020


QAA yn croesawu cynigion ar gyfer Comisiwn addysg uwch newydd yng Nghymru






James Harrison
Swyddog Polisi Arweiniol ar gyfer y Cenhedloedd ac Ewrop

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil drafft. Roedd y bil yn cynnig y dylid sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, i fod yn weithredol erbyn 2023. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn bwriadu gosod y bil gerbron Senedd Cymru yn dilyn yr etholiad ym mis Mai 2021.

 

Os caiff y bil ei basio, bydd y Comisiwn newydd yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i Addysg Uwch Cymru ac wedi rhoi’r lle blaenaf i fuddiannau myfyrwyr yn eu gwaith i sicrhau bod y sector yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas ac ar yr economi. Mae QAA wedi gweithio’n agos gyda HEFCW ers 1997 ac yn gwerthfawrogi eu dulliau adeiladol o weithio dros Gymru a’u hymrwymiad i gydweithredu ledled y Deyrnas Gyfunol.

 

Bydd gan y Comisiwn bwerau i gyllido addysg uwch, prentisiaethau, ymchwil ac arloesi, a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol megis gwybodaeth, cyngor a chanllawiau. Yn ogystal, bydd gofyn i’r Comisiwn gynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru.

 

Ar destun sicrhau ansawdd, mae’r bil yn cynnig y bydd gan y Comisiwn bŵer i ddirprwyo swyddogaeth asesu ansawdd addysg uwch i gorff a ddynodir gan Weinidogion Cymru, mewn ymgynghoriad â sefydliadau addysg uwch a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Bydd y Comisiwn hefyd yn gallu cyhoeddi fframweithiau sicrhau ansawdd mewn ymgynghoriad â phersonau y bydd y Comisiwn yn eu hystyried yn briodol. Ar gyfer adolygiadau allanol o addysg uwch, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i’r rheoliadau bennu y dylai’r rhain gael eu cynnal unwaith bob chwe blynedd, sy’n golygu y byddai’r arfer presennol o gynnal adolygiadau cylchol o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn parhau.

 

Byddai disgwyl hefyd i’r Comisiwn gyhoeddi Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, a fydd yn amlinellu sut y dylai buddiannau dysgwyr gael eu cynrychioli yn nhrefniadau llywodraethu a rheoli darparwyr.

 

Yr wythnos yma, mae QAA wedi ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y bil drafft, ac wedi estyn croeso cyffredinol i’r cynigion. Rydym yn credu y gall y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr arfaethedig sicrhau bod ymgysylltu â dysgwyr wrth galon y system addysg drydyddol yng Nghymru, tra bydd modd dysgu hefyd o arfer cadarnhaol sydd wedi bod ar waith eisoes mewn rhai prifysgolion, megis siarteri myfyrwyr.

 

Rydym yn croesawu’r cyfle all ddod gyda’r bil ar gyfer cefnogi llwybrau dysgwyr hyblyg ar draws y system trydyddol, ac rydym yn credu y gall fod rôl yn y dyfodol i’r corff ansawdd dynodedig yn arwain prosiectau yn seiliedig ar wella er mwyn cefnogi profiadau pontio myfyrwyr - prosiectau tebyg i’r rhai rydym eisoes wedi eu harwain yn yr Alban.

 

Mae QAA yn gefnogol yn gyffredinol i’r cynigion i greu corff dynodedig i gyflawni swyddogaethau asesu ar gyfer addysg uwch yng Nghymru, er bod mannau ble byddem yn croesawu cael rhagor o eglurder pan gyhoeddir y bil yn y dyfodol, gan y byddem yn hoffi gweld gofynion mwy penodol o ran ymgynghori â myfyrwyr yn ystod y broses, yn ogystal â rhagor o fanylion am y cyfnod dynodi. Hoffem i gwmpawd swyddogaeth y corff dynodedig gynnwys y gallu i gynnal ystod eang o weithgareddau gwella sy’n gallu cefnogi’r sector addysg drydyddol gyfan mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid eraill.

 

At ei gilydd, mae hwn yn gyfnod diddorol i addysg yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ddeddfwriaeth yn datblygu yn ystod y misoedd sydd i ddod. Yn y cyfamser, bydd QAA yn parhau â’i waith mewn cydweithrediad â HEFCW a phrifysgolion a cholegau yng Nghymru i sicrhau bod addysg uwch a’r profiad cyfan i fyfyrwyr o’r safon gorau y gall fod.