Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

28 Hydref, 2021


Dyfodol Dysgu Cyfunol: Persbectif Myfyrwyr





Awduron



Becky Ricketts
Llywydd UCM Cymru



Shawn Shabu
Myfyriwr Prifysgol Abertawe – BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Roedd Becky Ricketts (Llywydd UCM Cymru) a Shawn Shabu yn aelodau panel oedd yn fyfyrwyr yn nigwyddiad Rhannu Arfer QAA ar gyfer: Cronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch (HEIR) - ddydd Mercher 15fed Medi. Yn y blog hwn, fe’u gwahoddwyd i drafod dyfodol dysgu digidol a chyfunol.


Mae dysgu cyfunol wedi bod yn bwnc llosg ers dechrau'r pandemig, ac mae’n hawdd deall pam. Yn dilyn dyfodiad digynsail pandemig COVID-19, symudodd Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) ledled y wlad ar unwaith i ddarparu addysgu a dysgu yn gwbl ddigidol, rhywbeth nad oeddent wedi cynllunio ar ei gyfer.


Profodd myfyrwyr newidiadau cyflym mewn amgylcheddau dysgu a bu'n rhaid iddynt addasu i amgylchiadau newydd. I lawer, golygodd hyn hyblygrwydd a chyfleuster hir-ddisgwyliedig yn eu haddysg - gan ganiatáu i rieni sy'n gweithio ddysgu pan fydd eu plant wedi mynd i'r gwely, ac i fyfyrwyr â salwch cronig allu dal i fyny pan fydd eu hiechyd yn caniatáu. Fodd bynnag, rhaid dweud nad yw pawb wedi dathlu’r symudiad hwn, gyda llawer o fyfyrwyr anabl yn brwydro i addasu heb ddehongliadau wyneb-yn-wyneb, athrawon a meddygon yn methu lleoliadau gwaith hanfodol, ac yn gadael cymaint yn gofyn y cwestiwn 'a’i dyma ble mae fy £9k yn mynd?'


Byddai'n esgeulus i ni beidio â chymeradwyo ymdrech pob aelod o staff, swyddog a myfyriwr sydd wedi gwneud i'r flwyddyn ddiwethaf weithio. Dan yr amgylchiadau mwyaf annisgwyl ac anghyffredin, parhaodd addysg ledled Cymru. Gallai fod wedi bod mor hawdd disgyn i anhrefn, gan honni, 'Mae'n rhy anodd!' a byddwn yn rhoi cynnig arni eto yn nes ymlaen ar ôl i hyn i gyd dawelu. Ond wnaethon ni ddim! Gwelsom yr her yn dod, ac fe wnaethom ei hwynebu'n benderfynol. I lawer o fyfyrwyr, mae'r defnydd o ddysgu ar-lein yn rhywbeth y maen nhw wedi bod yn dyheu amdano ers blynyddoedd, gyda'r buddion yn cael eu pwysleisio'n barhaus. Mae’n fwy hyblyg i rieni neu'r rheiny sydd ag ymrwymiadau llawn-amser eraill. Mae’n haws dal i fyny os ydych chi'n sâl. Mae llawer yn gyfarwydd â rhaglenni a meddalwedd newydd. Mae’n llai brawychus i rai na neuaddau darlithio llawn. Er y codwyd pryderon ynghylch presenoldeb, nid oedd hon yn broblem a nodwyd. Mewn gwirionedd, cynyddodd presenoldeb mewn sawl sefydliad, wrth i fyfyrwyr sylweddoli bod eu haddysg o'r diwedd yn cael ei theilwra’n benodol i'w gofynion.


Y frwydr fwyaf a deimlwyd gan lawer oedd yr effaith ganlyniadol o ynysu a ddaeth yn sgil dysgu rhithwir. Sut mae myfyrwyr yn ffurfio cymunedau, grwpiau cymdeithasol a chyfeillgarwch os nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd? Er bod ffyniant cwisiau Zoom yn ymddangos yn atgof pell o wanwyn 2020, erys y ffaith, i gymaint o fyfyrwyr, eu profiadau ffurfiannol yn y brifysgol yw’r rhai y bu iddynt eu rhannu yn ystod y cyfnod hwnnw. Ac am arbenigwyr ym maes profiad myfyrwyr, trown at ein hundebau myfyrwyr. Maent wedi bod yn arloeswyr yng ngweithgareddau myfyrwyr ers degawdau, a chynyddodd hynny’n sylweddol yn ystod y pandemig. Roedd yn rhaid iddyn nhw hefyd ddod i arfer â thechnoleg newydd, ffyrdd newydd o weithio, a dulliau newydd o gynnig cymorth i fyfyrwyr, a hynny dros nos. Hyn yn ogystal â'r pwysau ychwanegol o fod yr unig le go iawn mewn sefydliad sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr gwrdd â'i gilydd yn gymdeithasol, sy’n rhywbeth y gwyddwn fod myfyrwyr yn crefu amdano. Ac felly, am hynny, diolchwn iddyn nhw!


Maes allweddol arall sy'n ymwneud â dyfodol dysgu cyfunol yw ei fforddiadwyedd a'i ymarferoldeb. I gannoedd o filoedd o fyfyrwyr, roedd eu profiad o ddysgu ar-lein yn golygu rhannu Wi-Fi gwan, ystafelloedd gwely a hyd yn oed dyfeisiau gyda'r rheiny oedd yn byw gyda nhw dan amodau clo, ac nid oes yr un o’r pethau hyn yn cyfrannu at amgylchedd gwaith ffafriol. Roedd myfyrwyr eraill yn teimlo eu bod wedi’u caethiwo a’u cyfyngu i 4 wal eu hystafelloedd, lle roeddent yn bwyta, astudio a chysgu. Gwyddom fod yr anawsterau hyn wedi effeithio'n anghymesur ar deuluoedd incwm isel, ac er bod cyllid wedi bod ar gael i ddarparu dyfeisiau i fyfyrwyr i’w helpu i fynd i'r afael â rhai o'r anawsterau hyn, yn y pen draw mae angen gwaith a buddsoddiad sylweddol i fynd at wraidd y broblem, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw fyfyrwyr yn cael eu gadael ar ôl dim ond oherwydd eu cefndir.


Felly, er bod dyfodol cyffredinol dysgu cyfunol yn gadarnhaol, ac yn caniatáu i addysg fod yn hygyrch ac yn hyblyg i unrhyw un sy'n dymuno cyfranogi, mae yna ystyriaethau y mae'n rhaid i'n sefydliadau a'n Llywodraethau eu datrys os ydym am wneud hyn yn nodwedd barhaol. I'r rhai sy'n dymuno clywed “mae myfyrwyr yn meddwl x”, byddwch yn cael eich siomi. I lawer, dysgu cyfunol yw'r ateb i'w gweddïau, ond i eraill nid yw'n cynnig gwerth da am arian.


Y gwir amdani yw bod hyn yn dod - ein neges i arweinwyr y sector yw bod angen iddyn nhw sicrhau bod myfyrwyr yn gweld gwerth, nid yn unig mewn addysg wyneb-yn-wyneb, ond yn yr agwedd ddigidol hefyd. Does dim diben i'r system fod yn hygyrch i'r mwyafrif, pan fo yn agored i bawb - rhaid i bob myfyriwr fod yn gallu ffynnu trwy gydol eu hamser ym myd addysg, ac ni fydd methu â gwneud hynny yn creu'r Gymru yr ydym yn gwybod ein bod yn ei haeddu. Wrth i ansicrwydd barhau ynglŷn â dychwelyd i addysgu wyneb-yn-wyneb traddodiadol, mae'n hanfodol bod gennym gymaint o wybodaeth â phosibl, fel sail i'r camau nesaf wrth ddarparu rhaglenni addysgol parhaus. Yn hynny o beth, mae angen i lais myfyrwyr fod yn elfen hanfodol sy’n rhaid ei chynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad ar lefel genedlaethol i lunio cyfeiriad dulliau dysgu digidol yn y dyfodol.