Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

29 Medi 2021


Cynnal a Gwella Dysgu Digidol ledled Cymru





Authors



Yr Athro Claire Taylor
Dirprwy Is-Ganghellor ac Athro Addysg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam


Arweinydd Prosiect Cydweithredol Cronfa Buddsoddiad ac Adferiad AU (HEIRF) y Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu (LTN): Cynnal a Gwella Dysgu Digidol ledled Cymru

Twitter: @ProfCTaylor

Yn ei rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor ac Athro Addysg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, mae gan Claire oruchwyliaeth weithredol dros ddysgu ac addysgu, profiad myfyrwyr a chennad ddinesig. Mae’r Athro Taylor yn aelod o Bwyllgor Cyfle a Chyflawniad Myfyrwyr CCAUC, Grŵp Llywio Cymru Jisc Learning Analytics, ac yn Gadeirydd Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru.


Cyflwynodd yr Athro Claire Taylor sesiwn yn nigwyddiad Rhannu Arfer QAA ar gyfer Cronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch ddydd Mercher 15 Medi ar y prosiect CCAUC gwerth £2.7m a ariennir gan HEIR. Hefyd cadeiriodd yr Athro Taylor sawl sesiwn yn y gynhadledd, gan gynnwys trafodaeth banel a oedd yn canolbwyntio ar edrych tua dyfodol addysgu a dysgu digidol/cyfunol a rhannu cyfleoedd posibl ar gyfer addysgu a dysgu digidol/cyfunol yn y dyfodol o safbwynt myfyrwyr, cyrff yn y sector ac yn rhyngwladol.


Yn y blog hwn, mae'r Athro Taylor yn dweud mwy wrthym am y prosiect CCAUC gwerth £2.7m a ariennir gan HEIR a'i effeithiau.

 

Sefydlwyd y Gronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch (HEIRF) yng Nghymru yn ystod 2020/21 er mwyn cynorthwyo prifysgolion i gynnal capasiti hanfodol a chynnal yr adferiad economaidd yng nghyd-destun effaith pandemig Covid-19. Mewn ymateb i hyn, datblygwyd prosiect Cymru-gyfan gwerth £2.7m wedi’i ariannu gan HEIR ar y cyd gan aelodau Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu (LTN) Prifysgolion, yn gweithio gydag Undebau Myfyrwyr mewn sefydliadau, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, UCM Cymru a QAA.

 

Y nod oedd sicrhau cynaladwyedd y capasiti i ddatblygu'r cwricwlwm digidol ar draws y sector, casglu a gwerthuso canfyddiadau myfyrwyr ynghylch effeithiolrwydd eu dysgu digidol, rhannu a dathlu arfer gorau a sefydlu cynllun gwella dysgu digidol ar draws y sector, y gallem fynd ati ar y cyd i’w gynnal y tu hwnt i'r buddsoddiad uniongyrchol.

 

Roedd nifer o egwyddorion arweiniol allweddol yn sail i'r cais am gyllid, a'r prosiect a ddeilliodd o’r cais.

 

Yn gyntaf, dull sector-cyfan oedd hwn, yn canolbwyntio ar gefnogaeth i ddysgu wedi'i alluogi'n ddigidol, gan gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg gan weithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Er bod dulliau newydd o ddysgu digidol wedi'u datblygu'n annibynnol ac yn llwyddiannus gan brifysgolion ledled Cymru fel rhan o'r 'addasiad i’r pandemig' yn ystod Gwanwyn 2020, roeddem am adeiladu cymuned ymarfer gysylltiedig a chydlynol gyda'n gilydd, gan adeiladu ar brosiectau blaenorol ledled y wlad fel Dadansoddeg Dysgu Cymru (wedi'i hwyluso gan Jisc) a'n hymrwymiad ar y cyd i ddull gweithredu ar draws Cymru-gyfan o wella ansawdd, gan weithio gyda QAA.

 

Yn ail, roedd ein hagwedd yn canolbwyntio ar y myfyriwr. Golygodd hyn ddod o hyd i ffyrdd o ddiogelu rolau addysgu a chymorth allweddol er mwyn cynnal capasiti a pharhad ar gyfer addysgu a dysgu o ansawdd uchel er budd y myfyrwyr. Roedd ein cais hefyd yn cynnwys prosiect ymchwil wedi’i deilwra’n benodol, a oedd yn canolbwyntio ar ganfyddiadau myfyrwyr o'u profiadau dysgu digidol. Roedd hyn hefyd yn sicrhau bod y prosiect yn seiliedig ar dystiolaeth (ein trydedd egwyddor) trwy gasglu adborth myfyrwyr a hefyd trwy gomisiynu adolygiad thematig QAA ledled Cymru ynghylch dysgu digidol.

 

Yn bedwerydd, roedd ein dull yn cyd-fynd â strategaethau prifysgolion, ac felly'n ymwybodol o gyd-destunau ac amgylcheddau prifysgolion unigol. Felly roedd yn bwysig ystyried ac adeiladu ar strategaethau oedd yn bodoli eisoes mewn prifysgolion o ran dysgu digidol wrth gynllunio a chyflwyno’r prosiect yn ei gyfanrwydd. Roedd hyn hefyd yn cwmpasu ein pumed egwyddor o hwyluso ymreolaeth sefydliadol ar gyfer defnyddio arian craidd ar sail dadansoddiad o anghenion lleol.

 

Fodd bynnag, yr egwyddor bwysicaf oedd bod y dull yn cynnwys gweithredu byr-dymor gyda meddwl tymor hir. Cynlluniwyd y prosiect i symud ymlaen â datblygiadau mewn dysgu cyfunol a gweithio hyblyg, yn ogystal â mynd i'r afael â'r heriau tymor byr, canolig a thymor hwy i Gymru ac i brifysgolion fel darparwyr addysg uwch yng ngoleuni'r pandemig.

 

Yn y tymor byr, nod buddsoddiad mewn datblygu’r cwricwlwm oedd amddiffyn profiad uniongyrchol myfyrwyr, ac ymddengys bod hyn wedi talu ar ei ganfed fel y gwelwyd yn adborth myfyrwyr. Er enghraifft, yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn 2021, roedd y sgôr gyffredinol ar gyfer boddhad myfyrwyr 'i lawr' ar draws sector AU y DU. Fodd bynnag, roedd Cymru wedi parhau i gynnal sgôr ychydig yn uwch ar gyfartaledd ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr ac yn achos cwestiynau allweddol eraill, oedd yn gyson â thuedd y blynyddoedd diwethaf.

 

Yn y tymor canolig, mae'r prosiect yn darparu llwyfan ar gyfer arloesi pellach o ran y berthynas â chwricwla wedi’u galluogi trwy ddulliau digidol. Fe wnaeth yr arian ein galluogi i sicrhau adnoddau datblygu’r cwricwlwm digidol cyfredol a pharhaus ym mhob un o'n sefydliadau, gan ganolbwyntio ar gynnal a datblygu rolau staff allweddol fel technolegydd dysgu, datblygwr addysgol a datblygwr digidol. Mae staff o'r fath yn darparu gwasanaethau a chefnogaeth rheng flaen ar ffurf:



  • datblygu adnoddau dysgu digidol; ymchwilio a gweithredu technolegau a dulliau fel rhith-amgylcheddau dysgu, dysgu ar-lein, ystafell ddosbarth amgen, cyfryngau cymdeithasol ar gyfer dysgu, cipio darlithoedd, pleidleisio.
  • adolygu’r cwricwlwm digidol, cynllunio a datblygu dysgu; cynorthwyo staff academaidd a thimau cyrsiau i wneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol wrth iddynt gynllunio rhaglenni newydd neu adolygu'r rhai sy’n bodoli eisoes, gyda'r nod cyffredinol o wella profiad dysgu myfyrwyr.
  • datblygu staff academaidd; mae hyn yn hanfodol i wreiddio a chynnal y prosiect hwn fel y mae, trwy alluogi'r gymuned academaidd i dyfu mewn sgiliau, gwybodaeth a hyder y bydd yr hyn a gyflawnwyd mewn cyflwyno cyfunol yn cael ei ddiogelu, ei wreiddio a'i wella.

Gan edrych i'r dyfodol, mae buddsoddiad wedi rhoi cyfle i ni ddatblygu rhaglen o welliannau tymor hwy sy'n gysylltiedig â dysgu wedi'i alluogi'n ddigidol ledled Cymru. Hynny ar sail adborth gan fyfyrwyr ac adolygiad thematig QAA a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael yn sgil datblygiad technolegol ac arloesi digidol.

 

Rydym yn edrych ymlaen at rannu'r gwaith hwn ymhellach ac yn ehangach y tu hwnt i Gymru, a gallwn eisoes dynnu sylw at allbynnau’r prosiect, er enghraifft:



  • digwyddiad 'rhannu arfer' dan arweiniad QAA yn myfyrio ar ganlyniadau allweddol yr adolygiad thematig a phrosiect canfyddiadau myfyrwyr
  • datblygu astudiaethau achos ynghylch effaith sefydliadol
  • cyfres o adnoddau dysgu digidol yn Gymraeg.

Wrth symud ymlaen, rydym wedi sicrhau ychydig o gyllid dilynol ar gyfer y prosiect canfyddiadau myfyrwyr, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio Arolwg Fewnwelediadau Myfyrwyr i Brofiadau Digidol JISC am y ddwy flynedd nesaf ar draws holl brifysgolion Cymru, er mwyn casglu tystiolaeth ar sail llais myfyrwyr. Cyn bo hir, byddwn yn dechrau gweithio ar gyd-greu Cynllun Gwella Dysgu Digidol ledled Cymru (gan dynnu ar adolygiad thematig QAA a chanfyddiadau myfyrwyr) a fydd yn cael ei adolygu o ran y cynnydd a wnaed yn ystod Haf 2023.

 

At ei gilydd, mae'r prosiect hwn yn tanlinellu manteision cydweithredu ar draws y sector addysg uwch a sut y gallwn weithio'n effeithiol iawn gyda’n gilydd yng Nghymru er budd profiad cyffredinol myfyrwyr. Mae gweledigaeth a phwrpas a rennir, ynghyd â pharch iach at ymreolaeth sefydliadol, wedi bod yn allweddol i lwyddiant; hefyd yn hanfodol yr awydd i fod yn hyblyg er mwyn gweithredu yn y tymor byr, ond bob amser gydag ymrwymiad i feddwl yn y tymor hir er mwyn sicrhau effaith gynaliadwy.