29 April 2022
Buddsoddiad ac Adferiad AU CCAUC: Prosiect Rhaglenni Cydweithredol Cymru – Pecyn Adnoddau Arweiniol

Author
John Bolton
Prifysgol University
Cefnogir Prosiect Rhaglenni Cydweithredol Cymru gan Gronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch CCAUC, a chaiff ei arwain gan Rwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru.
Roedd Ffrwd Gwaith 1 yn canolbwyntio ar rwystrau i gydweithio llwyddiannus a, gyda chefnogaeth y Grŵp Ffrwd Gwaith, adolygwyd a blaenoriaethwyd y risgiau, gan ddatblygu pecyn adnoddau oedd yn cynnwys canllawiau arfer da, prosesau enghreifftiol, mathau o weithgareddau ac adnoddau i gynorthwyo datblygiad darpariaeth gydweithredol.
Datblygwyd y pecyn adnoddau Arweiniol gan Dîm y Prosiect, gan dynnu ar ymgynghoriadau â staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol, y corff myfyrwyr, gwersi a ddysgwyd o gydweithrediadau blaenorol, ac ymchwil wrth ddesg.
Mae'r pecyn wedi'i gynllunio i roi cymorth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwilio i ddarpariaeth gydweithredol, a gellir ei ddefnyddio gan sefydliadau AU wrth iddyn nhw ddatblygu eu hadnoddau sicrhau ansawdd a gwelliant eu hunain. QAA Cymru sy'n cynnal y pecyn; caiff ei hyrwyddo trwy Rwydwaith Ansawdd QAA Cymru, ac mae ar gael i'w lawrlwytho o wefan QAA.
Mae'r Canllaw yn cynnig proses enghreifftiol a gweithgareddau allweddol i ddarparu fframwaith hawdd ei ddeall ar gyfer datblygu darpariaeth gydweithredol. Mae hefyd yn darparu adnoddau ymarferol y gellir eu defnyddio i hwyluso cydweithredu.
Mae'r Canllaw yn defnyddio diagram sy’n disgrifio proses pedwar cam enghreifftiol i lywio'r manylion.
- Syniad a Chynnig Cychwynnol
- Dylunio a Datblygu
- Cymeradwyaeth gan Bartneriaid
a. Dilysu Darpariaeth - Cyflawni, Gweithredu a Rheoli
Gall defnyddwyr weithio trwy'r broses enghreifftiol a gweithgareddau allweddol fel 'rhestr' gryno i gael teimlad o'r hyn sydd dan sylw a lle mae'r pwyntiau y mae angen penderfynu arnynt.

Neu gallwch durio'n ddyfnach ac ymchwilio i ddisgrifiadau byr o sut i gwblhau'r gweithgareddau a pham. Darperir dolenni at wybodaeth allanol (er enghraifft, cyngor ac arweiniad QAA) a gellir lawrlwytho adnoddau ychwanegol, eu defnyddio, eu golygu a'u hailddefnyddio.
Er enghraifft:
- Gall manteision cydweithio helpu i ddisgrifio’r syniad a sicrhau ymrwymiad gan randdeiliaid allweddol.
- Mae'r Matrics Cyfrifoldeb (RACI) yn defnyddio gweithgareddau'r broses ac yn nodi pwy ddylai gymryd rhan, er mwyn sicrhau bod agweddau'n cael eu hystyried ar yr adeg gywir gan y bobl gywir.
- Gall arweinwyr prosiectau, ac aelodau tîm sicrhau ansawdd sefydliadol, ddefnyddio'r Rhestr Wirio Weithredol wrth ddatblygu a chyflwyno'r ddarpariaeth gydweithredol.
Mae risgiau sy’n perthyn i gyflwyno a gweithredu llwyddiannus wedi'u nodi yn y Log Risg ac, fel gyda phob sefydliad, mae'r canllawiau'n cynghori monitro profiad myfyrwyr, gwella safonau ac ansawdd yn barhaus, sefydlu llywodraethiant, a chasglu gwersi a ddysgwyd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Nid yw'r broses, y gweithgaredd a drafodwyd a'r enghreifftiau a'r adnoddau, yn dehongli nac yn ymgorffori deddfwriaeth, gofynion statudol neu reoleiddiol; yn hytrach maent yn arf ar gyfer codi ymwybyddiaeth o arferion nodweddiadol ac yn dangos ymagweddau posibl. Rhaid i gydweithwyr hefyd gyfeirio at brosesau sefydliadol ar gyfer datblygu darpariaeth gydweithredol, sy'n cael blaenoriaeth.
Sut mae'r arweiniad yn helpu gyda gwella ansawdd?
Mae QAA yn diffinio 'gwelliant' yn y Llawlyfr Adolygu Gwella Ansawdd (2020) (paragraff 34), sy'n cwmpasu gwelliant parhaus a/neu newidiadau sylweddol mewn polisi ac arfer er mwyn gwella profiad dysgu myfyrwyr. Mae'r pecyn adnoddau yn arf ar gyfer gwella dealltwriaeth o arfer cyfredol, ac mae’n dangos dulliau posibl o ddatblygu darpariaeth gydweithredol. Ymhellach, enghraifft o newid sylweddol posibl fyddai pe bai’r gwaith hwn yn cynyddu cydweithredu mewn darpariaeth a addysgir ar draws y sector.
Cyfleoedd a manteision defnyddio’r Canllawiau:
- Mae'r 'map ffordd’ / y daith, sy’n cynnwys gweithgareddau allweddol, yn darparu fframwaith sy'n hygyrch i gydweithwyr sy'n newydd i'r broses gydweithredu / partneriaeth. Gall defnyddwyr ddewis pa lefel o fanylder y maent am fynd iddi.
- Mae'r matrics canllawiau a chyfrifoldeb (RACI) yn rhoi sylw i agweddau pwysig i'w hystyried gan y bobl iawn ar yr amser iawn, gan leihau problemau posibl ac arbed amser.
- Gellir defnyddio'r Rhestr Wirio Weithredol i sicrhau na chaiff gweithgareddau eu hepgor.
- Byddai'n hawdd datblygu'r broses a'r Rhestr Wirio yn gynllun prosiect i reoli datblygiad a chyflwyniad darpariaeth gydweithredol newydd.
- Mae risgiau wedi'u casglu ynghyd o brofiad y sector a'r gwersi a ddysgwyd, ac fe'u darperir yn y Log Risg. Gellir addasu'r risgiau, ychwanegu atynt, eu dileu, eu hidlo neu eu sgorio; gellir gweithredu camau lliniaru i wella gweithrediad y prosiect a'r tebygolrwydd o lwyddiant.
- Mae'r pecyn adnoddau’n dwyn ynghyd brofiad diweddar o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth gydweithredol ledled Cymru, a gellir ei ddefnyddio ochr-yn-ochr â phrosesau sicrhau ansawdd a gwelliant pob sefydliad addysg uwch yn y maes hwn.
Gwella ansawdd trwy gydweithio:
Ar gyfer yr academydd:
- Mae cysylltu ag eraill a rhannu gwybodaeth yn rhoi mewnwelediad newydd ac yn cynyddu gwybodaeth.
- Mae’n cyflawni nod cyffredin na ellir ei gyflawni ar eich pen eich hun/mwy o gyflawniad trwy weithio gydag eraill.
Ar gyfer y myfyriwr:
- Gwella gwerth dysgu'r myfyrwyr trwy gynnig mynediad at fwy o arbenigedd.
- Bydd cydweithio o ansawdd uchel gyda diwydiant, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn galluogi myfyrwyr i gael profiad gwaith gwerthfawr, i feddwl am eu dyfodol a’u hannog i archwilio eu hysbryd entrepreneuraidd.
Ar gyfer y sefydliad:
- Mae’n gwella'r cwricwlwm a chyfleoedd dysgu myfyrwyr.
Ar gyfer y sector:
- Gwell mynediad i sylfaen diwydiant ehangach ledled Cymru, gyda chysylltiadau diwydiant cryf yn cael eu cynnig gan bob sefydliad AU.
- Deniadol i gyflogwyr a gweithwyr (er enghraifft, sgiliau, llywio dysgu, meithrin perthnasoedd).
- Effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg/dwyieithog.
Y camau nesaf
Lawrlwythwch y Pecyn Adnoddau Arweiniol o wefan QAA a defnyddiwch y wybodaeth a'r adnoddau yn eich darpariaeth gydweithredol nesaf. Dywedwch wrthym sut rydych chi'n defnyddio'r adnoddau trwy e-bostio ARCAadmin@qaa.ac.uk.
Bydd tîm QAA Cymru yn monitro'r ymweliadau â'r dudalen we a nifer y lawrlwythiadau. Bydd y wybodaeth hon yn helpu Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru i adolygu a diweddaru'r adnodd yn y dyfodol.
““Mae hwn wedi bod yn brosiect diddorol, heriol a phleserus. Mae’r arweinyddiaeth wedi bod yn wych ac mae’r ymgysylltiad gan randdeiliaid ar draws holl sefydliadau AU Cymru a mudiadau allanol wedi bod yn anhygoel, yn enwedig o ystyried y problemau y mae cydweithwyr wedi delio â nhw yn ystod y pandemig. Mae’r ffyrdd o weithio ar draws y bartneriaeth yn galonogol, a bydd yr ewyllys i gydweithio ar y prosiect hwn a darparu cyngor, arweiniad a gwersi a ddysgwyd yn werthfawr ar gyfer unrhyw gydweithio newydd yn y dyfodol.” John Bolton.
Ynglŷn â’r awdur: Mae John Bolton yn uwch reolwr prosiect sydd â phrofiad eang o arwain a chyflwyno rhaglenni sy’n hanfodol i fusnes a phrosiectau strategol yn y sector Addysg Uwch.