Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn lansio arolwg adborth ar gyfer y sector ar Gôd Ansawdd diwygiedig y DU

Dyddiad: Tachwedd 27 - 2023

Mae QAA wedi lansio arolwg ar gyfer y sector cyfan i gael adborth ar fersiwn ddiwygiedig o Gôd Ansawdd y DU.

Mae’r model sydd wedi’i ailddatblygu’n adnewyddiad sylweddol o’r fersiwn gyfredol o Gôd Ansawdd y DU, a gyhoeddwyd yn 2018. Ers hynny, mae’r sefyllfa reoleiddiol yn Lloegr wedi newid yn sylweddol a bu datblygiadau yng ngwledydd eraill y DU, sy’n golygu ei bod yn amserol ystyried cwmpas a strwythur y Côd Ansawdd yn y dyfodol.

Mae’r Côd Ansawdd yn parhau i fod yn gyfeirbwynt allweddol yn y fframweithiau ansawdd ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’n parhau i gael ei ddefnyddio gan ddarparwyr yn Lloegr ar sail wirfoddol - er bod hefyd disgwyl i ddarparwyr sy’n cael eu hadolygu dan y dull Adolygiad Addysg Uwch (Darparwyr Amgen) ymwneud yn benodol â'r Cod Ansawdd, pa bynnag wlad maent wedi’i lleoli ynddi. 

Ein gwaith hyd yma ar ddiweddaru'r Côd Ansawdd

Wrth ailddatblygu'r Côd Ansawdd, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd bwrdd-crwn ar-lein rhwng Ionawr a Mawrth eleni, â’r nod o annog cyfranogiad gan ystod eang o gyrff a rhwydweithiau sector wrth drafod ei gwmpas, ei strwythur a'i gynnwys yn y dyfodol. Cyflwynwyd crynodeb o'r adborth o'r sgyrsiau hyn yn ein Cynhadledd ar gyfer Rhwydwaith yr Aelodau wyneb-yn-wyneb yn Ebrill ac mewn gweithdy ar-lein ym mis Mai. Dilynwyd y gweithgareddau hyn gan gyfres haf o ddigwyddiadau ar-lein â'r nod o'n helpu i 'wneud pethau'n iawn' wrth ailddatblygu cynnwys y Côd Ansawdd.

Mae’r themâu allweddol sydd wedi dod i’r amlwg yn yr adborth a dderbyniwyd hyd yn hyn o blaid Côd Ansawdd sydd â’r nodweddion canlynol:

  • Aliniad â'r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd. 
  • Ymagwedd DU gyfan yn hytrach na gwyro tuag at unrhyw fframwaith cenedlaethol unigol.  
  • Trosolwg cryno o'r nodweddion y mae addysg uwch y DU gosod y gwerth mwyaf arnynt, sy'n gweithredu fel rhagarweiniad defnyddiol i'r rhai nad ydynt yn arbenigwyr ansawdd.  
  • Rhwyddineb llywio rhwng rhannau cyfansoddol y Côd Ansawdd a'r Cyngor a Chanllawiau ategol.
Cyfle olaf i ddweud eich dweud

Mae'r arolwg newydd yn gofyn i ymatebwyr am eu hadborth ar egwyddorion ac arferion allweddol y Côd Ansawdd diwygiedig, ac a yw'n cefnogi dull trydyddol o ymdrin ag ansawdd a safonau ledled y DU. Mae hefyd yn gofyn i ymatebwyr am eu barn ar ba mor hawdd yw'r Côd Ansawdd i'w ddefnyddio, ei ddiwyg ar-lein a sut mae'n debygol o gysylltu â'r Cyngor a Chanllawiau ategol.

Dywedodd Dr Ailsa Crum, Cyfarwyddwr Aelodaeth, Gwella Ansawdd a Safonau QAA: 'Mae Côd Ansawdd y DU yn sail i enw da addysg uwch y DU, sydd ymhlith y gorau yn y byd o ran ei hansawdd. Mae'n bleser gennym rannu ein cynigion sy'n adeiladu ar drafodaethau gyda'r sector hyd yma, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu â chydweithwyr yn y cam nesaf hwn yn natblygiad y Côd Ansawdd. Hoffem hefyd ddiolch i bawb sy'n rhoi o'u hamser i ymateb - mae eich adborth yn hanfodol i wneud y Côd Ansawdd mor ddefnyddiol â phosibl i staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill.'

Unwaith y bydd y cam hwn o ailddatblygu'r Côd Ansawdd wedi'i gwblhau, rydym yn disgwyl cynnal ymgynghoriad ffurfiol yn ystod 2024, â'r nod o gyhoeddi fersiwn derfynol y Côd Ansawdd yn y flwyddyn academaidd gyfredol.

Sut i ymateb 

Mae'r cynigion ar gyfer y Côd Ansawdd yn cynnwys model strwythurol newydd ac ymagwedd ddiwygiedig at yr arferion a'r egwyddorion manwl. Ceir gwybodaeth lawn yn y fersiwn o'r Côd Ansawdd ar gyfer adborth gan y sector, sydd bellach wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan.

Dylid cyflwyno pob ymateb trwy ein harolwg ar-lein erbyn 19eg Ionawr 2024, am 5pm.  

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach am y Côd Ansawdd a'i ailddatblygiad ar ein tudalen we benodol.