Gan adeiladu ar adborth helaeth a gasglwyd o bob rhan o'r DU, mae QAA bellach yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar fersiwn arfaethedig y Côd Ansawdd ar gyfer 2024. Gallwch ddarganfod mwy am waith QAA i adolygu a diwygio'r Côd Ansawdd yn y ddogfen ymgynghori.
Mae’r model diwygiedig yn cynrychioli newid sylweddol o gymharu â fersiwn 2018 o’r Côd Ansawdd. Mae’n cynnig mwy o wybodaeth i ddarparwyr wrth ystyried eu hymagwedd at ansawdd a safonau, ond mae’n cadw trosolwg cryno a chlir o’r hyn y gall darparwyr ei ddisgwyl ganddynt hwy eu hunain ac oddi wrth ei gilydd.
Mae’r Egwyddorion y Cytunwyd arnynt gan y Sector a’r Arferion Allweddol sy’n perthyn iddynt wedi’u rhannu’n dri maes craidd: Ymagwedd strategol, Gwerthuso ansawdd a safonau, a Gweithredu'r ymagwedd at wella ansawdd a safonau, fel y dangosir isod.
Egwyddor 1: Mabwysiadu ymagwedd strategol at reoli ansawdd a safonau
Egwyddor 2: Ymwneud â myfyrwyr fel partneriaid
Egwyddor 3: Sicrhau adnoddau ar gyfer darparu profiad dysgu o ansawdd uchel
Egwyddor 4: Defnyddio data i lywio a gwerthuso ansawdd
Egwyddor 5: Monitro, gwerthuso a gwella'r ddarpariaeth
Egwyddor 6: Cymryd rhan mewn adolygu ac achredu ansawdd a safonau allanol
Egwyddor 7: Cynllunio, datblygu, cymeradwyo ac addasu rhaglenni
Egwyddor 8: Gweithredu partneriaethau gyda sefydliadau eraill
Egwyddor 9: Recriwtio, dethol a derbyn myfyrwyr
Egwyddor 10: Rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr gyflawni eu potensial
Egwyddor 11: Dysgu, addysgu ac asesu
Egwyddor 12: Pryderon gweithredu, prosesau cwynion ac apeliadau
Darllenwch y Côd Ansawdd arfaethedig
Mae'r cynnig ar gyfer y Côd Ansawdd yn cynnwys model strwythurol newydd ac ymagwedd ddiwygiedig at ymdrin â'r Egwyddorion y Cytunwyd arnynt gan y Sector a’r Arferion Allweddol. Dylid darllen y fersiwn o'r Côd Ansawdd ar gyfer ymgynghori ar y cyd â'r ddogfen ymgynghori, sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad.
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno pob ymateb trwy ein harolwg ar-lein erbyn 17 Mai 2024, 5pm.
Mae cwestiynau’r arolwg hefyd i’w gweld yn y ddogfen ymgynghori, ac rydym wedi darparu fersiwn MS Word i’ch helpu i baratoi eich atebion.
Wrth ystyried eich ymateb, cofiwch y bydd Cyngor a Chanllawiau manwl yn dilyn cyhoeddi'r Côd Ansawdd. Bydd gwaith yn dechrau ar y Cyngor a Chanllawiau ym mis Medi 2024.
Digwyddiadau ymgynghori
Rydym yn cynnig dau ddigwyddiad ar-lein i gyd-fynd â’r broses ymgynghori. I gael gwybod mwy, ewch i’r wefan archebu digwyddiadau ar gyfer y dyddiad sydd fwyaf cyfleus i chi.