Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA Cymru yn lansio galwad am Brosiectau Gwelliant Cydweithredol a ariennir gan CCAUC

Dyddiad: Ionawr 31 - 2023

Mae QAA heddiw wedi lansio galwad am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Prosiectau Gwelliant Cydweithredol a ariennir gan CCAUC drwy drefniadau grant gyda QAA.  

Mae'r rhain yn brosiectau lle mae grwpiau o ddarparwyr yn cytuno i weithio ar y cyd ar faterion sydd o fudd i bawb o fewn y grŵp hwnnw, ac sydd â photensial i ychwanegu gwerth i'r sector cyfan ar ôl eu cwblhau. Mae Prosiectau Gwelliant Cydweithredol wedi'u hanelu at hyrwyddo cydweithredu a datblygiad o fewn y sector. Gofynnir i'r grwpiau prosiect hyn adrodd ar eu cynnydd i QAA Cymru a rhannu’r hyn maent wedi’i ddysgu o'u gweithgaredd yn rheolaidd. Bydd y grwpiau prosiect hyn yn cael cymorth gan QAA Cymru ar ffurf grant gan CCAUC a rhywfaint o gefnogaeth gan staff.  

Mae'r alwad hon ar gyfer dau brosiect ar wahân yn unig. Y ddau faes pwnc yw Micro-gymwysterau a Chwynion Myfyrwyr ac Amgylchiadau Esgusodol. Ni fydd cynigion y tu allan i'r meysydd hyn yn cael eu hystyried.  

Dywedodd Alastair Delaney, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr QAA:

'Mae Prosiectau Gwelliant Cydweithredol yn ffordd wych o hyrwyddo cydweithrediad, datblygiad a gwelliant o fewn y sector, gan ddod â phrofiad gwerthfawr gan nifer o ddarparwyr at ei gilydd er budd y sector cyfan. Dyma'r ail alwad y mae QAA wedi'i gwneud ar gyfer Prosiectau Gwelliant Cydweithredol yng Nghymru, gyda'r gyntaf ym mis Mawrth 2021. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda darparwyr yn y rownd ddiweddaraf hon o brosiectau, a ariennir drwy ein trefniadau grant gyda CCAUC.'  

Gallwch weld allbynnau ein prosiectau gwelliant eraill, gan gynnwys dau dan arweiniad darparwyr addysg uwch Cymru, ar wefan QAA: 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn prosiect? Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ffurflen mynegi diddordeb isod a’i dychwelyd erbyn 22 Chwefror 2023. Croesewir ymatebion yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd yn ofynnol i bob cynnig llwyddiannus ar gyfer prosiectau ddechrau ac ymrwymo gwariant cyn diwedd Gorffennaf 2023.