Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae 'trefniadau cadarn' ar gyfer ansawdd yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, yn ôl corff ansawdd annibynnol y DU

Dyddiad: Medi 7 - 2022

Mae gan Goleg Coleg Castell-nedd Port Talbot (y cyfeirir ato fel Grŵp Colegau NPTC) ‘drefniadau cadarn ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad myfyrwyr’, yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Canmolodd yr adolygiad grŵp y coleg am ei gyflawniadau mewn sawl maes, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg ddigidol.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd ar-lein rhwng 27ain a’r 29ain Mehefin 2022. Yn gyffredinol, daeth y tîm i’r casgliad fod grŵp y coleg yn diwallu gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol, a'i fod yn ateb gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.

Mae’r ganmoliaeth gan yr adolygwyr yn cynnwys y canlynol:

  • Ehangiad y sefydliad o’r tîm staff AU i gydnabod natur unigryw’r ddarpariaeth AU ac i greu cymuned AU, er mwyn gwella profiad myfyrwyr.
  • Ymrwymiad y sefydliad i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr er mwyn diwallu eu hanghenion academaidd a bugeiliol i'w galluogi i gyflawni eu potensial.
  • Datblygiad a’r defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol ar draws y Coleg, o fewn amgylchedd cefnogol, gan alluogi gwelliant parhaus dysgu ac addysgu.

  • Ymrwymiad y sefydliad i ymgysylltu â myfyrwyr ac i wrando ar lais y myfyrwyr ac ymateb iddo. Mae hyn wedi galluogi myfyrwyr i gyfrannu at ansawdd cyffredinol y ddarpariaeth.

Meddai Cadeirydd Bwrdd y Gorfforaeth, Dr Rhobert Lewis: “Mae deilliannau’r adolygiad hwn yn rhagorol, gyda dim llai na chwe chanmoliaeth. Mae hyn yn dangos pa mor llwyddiannus yw staff o ran darparu mwy nag addysg yn unig, gyda chymorth i fyfyrwyr, ynghyd â llwyddiant myfyrwyr, yn brif flaenoriaethau i ni. Mae neges yr adolygiad yn glir iawn. Mae myfyrwyr yn cael cymorth rhagorol i astudio cyrsiau lefel prifysgol gyda ni, sydd nid yn unig yn cael eu darparu ar garreg drws y myfyrwyr ond sydd hefyd yn fforddiadwy, yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar yrfa”.

Nid yw adroddiad QAA yn gwneud unrhyw argymhellion i'r coleg.