Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Galwad am gyflwyniadau: Digwyddiad Symposiwm Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru QAA a ariennir gan CCAUC

Dyddiad: Mawrth 22 - 2023

Heddiw mae QAA wedi agor galwad am gynigion ar gyfer Digwyddiad Symposiwm Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru QAA (RhUAC) a ariennir gan CCAUC. Cynhelir y digwyddiad ar-lein gan QAA mewn partneriaeth â RhUAC ddydd Gwener 9fed Mehefin 2023, rhwng 9:00 a 17:00 BST. Mae cofrestru ar gael ar y safle archebu digwyddiadau.

Ym mis Awst 2021, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sicrhau ymrwymiad llawn i Siarter Uniondeb Academaidd QAA. Ym mis Medi 2021, drwy drefniadau grant gyda CCAUC, sefydlwyd Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru i adeiladu ar yr ymrwymiad hwn. Caiff y Rhwydwaith ei gadeirio gan yr Athro Michael Draper (Prifysgol Abertawe) a Dr Mike Reddy (Prifysgol De Cymru) sydd hefyd yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU. Mae'r Rhwydwaith yn cynrychioli staff a myfyrwyr o'r holl ddarparwyr addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru, sy'n cynnwys y naw prifysgol a dau goleg addysg bellach, ac UCM Cymru. Mae'r Rhwydwaith wedi ymrwymo i hyrwyddo uniondeb academaidd, brwydro yn erbyn camymddwyn academaidd, a hyrwyddo arferion asesu dilys a chynhwysol.

Mae’r digwyddiad ddydd Gwener 9fed Mehefin yn mynd i adeiladu ar themâu’r Siarter a’r Rhwydwaith, a chanolbwyntio ar y diddordeb cynyddol mewn offer deallusrwydd artiffisial a’r cyfleoedd a’r heriau posibl ar gyfer asesu.

Meddai’r Athro Draper a Dr Reddy: 'Mae RhUAC yn ymwneud â hyrwyddo uniondeb academaidd a gwreiddio arfer diledryw ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i academyddion, myfyrwyr, staff ansawdd ac eraill ddod at ei gilydd i drafod a rhannu arfer ynghylch rhai o’r heriau presennol ac arfer arloesol yn y maes hwn. Rydym yn croesawu cynigion gan staff a myfyrwyr ar draws y DU.'

Mae gwybodaeth am gyflwyno cynnig a’r ffurflen berthnasol i’w gweld yma dolen a bydd yn cau 17fed Ebrill am 9:00. Croesewir cynigion gan ddarparwyr addysg uwch ledled y DU, ac yn rhyngwladol.

Mae'r Rhwydwaith hefyd yn chwilio am aseswyr ychwanegol i gynorthwyo â'r gwaith o ddethol cynigion a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i'r digwyddiad. Mae'r holl wybodaeth ar gael yma dolen, a bydd yr arolwg yn cau 3ydd Ebrill am 17:00.

Croesewir cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.