Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru a ariennir gan CCAUC: Digwyddiad Symposiwm 2023
Dyddiad: | Mehefin 9 - 2023 |
---|---|
Lleoliad: | Ar-lein |

Dydd Gwener 9 Mehefin, 09:30 - 14:00 (Ar-lein)
Mewn partneriaeth â Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru a ariennir gan CCAUC, mae QAA yn cynnal Digwyddiad Symposiwm Uniondeb Academaidd ddydd Gwener 9fed Mehefin rhwng 9:30 a 14:00 (BST). Caiff y digwyddiad ei ariannu gan CCAUC.
Ym mis Awst 2021, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sicrhau ymrwymiad llawniSiarter Uniondeb Academaidd QAA. Ym mis Medi 2021, drwy drefniadau grant gyda CCAUC, sefydlwyd Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru (RhUAC) i adeiladu ar yr ymrwymiad hwn. Caiff y Rhwydwaith ei gadeirio gan yr Athro Michael Draper (Prifysgol Abertawe) a Dr Mike Reddy (Prifysgol De Cymru) sydd hefyd yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU. Mae'r Rhwydwaith yn cynrychioli staff a myfyrwyr o'r holl ddarparwyr addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru, sy'n cynnwys y naw prifysgol a dau goleg addysg bellach, ac UCM Cymru. Mae'r Rhwydwaith wedi ymrwymo i hyrwyddo uniondeb academaidd, brwydro yn erbyn camymddwyn academaidd, a hyrwyddo arferion asesu diledryw a chynhwysol.
Bydd y symposiwm sydd ar ddod yn seiliedig ar y themâu hyn a bydd yn canolbwyntio ar y diddordeb cynyddol mewn offer deallusrwydd artiffisial a’r cyfleoedd a’r heriau posibl ar gyfer asesu.
Mae'r Symposiwm yn derbyn cynigion ar gyfer y digwyddiad tan 17 Ebrill am 12:00.
Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i:
- Staff Academaidd
- Staff Gwasanaethau Proffesiynol
- Cynrychiolwyr Myfyrwyr
- Cyrff cynrychioli myfyrwyr, gan gynnwys timau cynghori myfyrwyr/cymorth i fyfyrwyr
- Staff a myfyrwyr eraill sydd â diddordeb mewn asesu ac uniondeb academaidd.
Cofrestru
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru