Y newyddion diweddaraf
Adolygiad Gwella Ansawdd – Cynhadledd Baratoi
Dyddiad: | Rhagfyr 8 - 2023 |
---|---|
Lleoliad: | Caerdydd |
Gwener 8fed Rhagfyr, 9:30 – 16:00
Mhrifysgol Caerdydd
Ariennir y digwyddiad hwn trwy drefniadau grant gyda CCAUC.
Mae QAA yn cynnal Cynhadledd Baratoi ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) ddydd Gwener 8fed Rhagfyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Ariennir y digwyddiad hwn trwy drefniadau grant gyda CCAUC.
Cyhoeddodd QAA y Llawlyfr diwygiedig ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd ym mis Awst 2023, yn dilyn blwyddyn o ymgysylltu â’r sector gan gynnwys gweithdai ar gyfer rhanddeiliaid, grŵp cynghori ar ddulliau ac ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r Gynhadledd hon yn rhan o gyfres o ymgysylltiadau â darparwyr addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru i gynorthwyo’r sector i drafod a gwreiddio’r newidiadau i’r dull adolygu ar gyfer cylchred 2023-24 – 2027-28. Mae rhai o nodweddion allweddol y dull diwygiedig yn cynnwys mwy o ffocws ar welliant, defnyddio dogfennaeth sy’n bodoli eisoes i leihau’r baich a chanolbwyntio ar (ail)gadarnhau yn hytrach na phrofi.
Bydd y Gynhadledd yn rhoi sylw penodol i hunan-werthusiad. Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr ar draws y sector a fydd yn rhannu gwahanol ymagweddau at hunan-werthuso a ffyrdd effeithiol o ddefnyddio hunan-werthuso i hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus. Bydd sesiynau ar-lein dilynol yn canolbwyntio ar ddogfennaeth fyw a’r sylfaen dystiolaeth, a byddant yn cael eu cynnal yn y Flwyddyn Newydd.
Gwahoddir pob darparydd addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru i enwebu 3 chynrychiolydd i fynychu'r digwyddiad. Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i:
- Uwch Arweinwyr sy'n gweithio ym maes Addysgu, Dysgu ac Ansawdd
- Arweinwyr Ansawdd
- Swyddogion/Cynrychiolwyr Myfyrwyr
Bydd agenda ar gael yn fuan.
Cofrestru
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru
Y Blog
Ar ein blog, mae awduron gwadd ac arbenigwyr QAA yn trafod materion sy'n hynod bwysig i'n sector, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.