Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Strategaeth QAA 2023-27: Gwybodaeth bellach


Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch Strategaeth QAA ar gyfer 2023-27, gan gynnwys atebion i gwestiynau ynglŷn â’n rôl esblygol yn y sector addysg uwch a diagram sy’n manylu ar ein lle ymysg asiantaethau’r sector yn y DU.

 

Gallwch ddarllen Strategaeth QAA ar gyfer 2023-27 yn ei chyfanrwydd ar ein tudalen we.

 

Cwestiynau ac atebion

 

Sut mae QAA yn arloesi wrth helpu sefydliadau i ddangos tystiolaeth ansawdd eu darpariaeth?

 

Rydym yn gweithredu mewn amgylchedd deinamig lle mae polisi wedi esblygu’n gyflym a lle mae datblygiadau technolegol mewn deallusrwydd artiffisial a thechnoleg addysgol, ynghyd â dysgu ar-lein a dysgu cyfunol yn cynnig cyfleoedd newydd, tra hefyd yn cyflwyno heriau newydd cymhleth.

 

Bydd QAA yn cynorthwyo sefydliadau i ddangos darpariaeth o ansawdd uchel yn effeithiol, i randdeiliaid allanol ac yn fewnol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Helpu prifysgolion a cholegau i addasu arferion addysgeg ac asesu mewn ymateb i ddatblygiadau newydd.
  • Datblygu fframweithiau hunanwerthuso a dangosyddion ar gyfer cryfderau ac sy’n nodi dangosyddion her cyn iddynt ddod i›r amlwg mewn data cyhoeddus.
  • Gweithredu penderfyniadau ar sail tystiolaeth, gan ddefnyddio data meintiol ac ansoddol.
  • Sicrhau bod darparwyr yn gallu adnabod a chyfleu ansawdd eu haddysgu, dysgu ac asesu a dangos ei fudd i fyfyrwyr a dysgwyr.

Sut mae QAA yn helpu enw da sefydliadau yn y DUac yn rhyngwladol??

 

Mae enw da rhyngwladol addysg uwch y DU yn hollbwysig i brifysgolion. Mae QAA yn ganolog i gynnal a gwella›r enw da hwnnw, drwy wneud y canlynol:  

  • Cynrychioli sector y DU yn rhyngwladol mewn ffordd unigryw, gan gynghori’n aml ar lefel system. Mae›r gwaith hwn yn ategu gwaith y sefydliadau yr ydym yn partneru â hwy, megis y Cyngor Prydeinig, yn ogystal â gweithgareddau rhyngwladol cyrff eraill yn y sector addysg uwch yn y DU. Mae'n adlewyrchu enw da sector y DU ac yn helpu i'w hyrwyddo ymhellach.
  • Cynnig gwasanaethau aelodaeth sy'n galluogi dealltwriaeth o ansawdd a safonau ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn hwyluso partneriaethau, cydnabyddiaeth a symudedd myfyrwyr a dysgwyr, graddedigion a staff.
  • Adeiladu cymunedau ymarfer mewn sicrwydd a gwelliant ymhlith ein haelodau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cryfhau enw da’r sector ac yn helpu i hyrwyddo datblygiadau amlochrog a dwyochrog mewn ansawdd a safonau.

    Sut bydd QAA yn sicrhau gwerth i’w aelodau?

     

    Rydym yn cynllunio ein gwasanaethau a'n gweithgareddau i ddarparu›r gwerth mwyaf posibl. Byddwn yn cynnig:  

    • Gwasanaethau asesu sy'n cynorthwyo â chydymffurfiaeth â gofynion rheoliadol neu safonau rhyngwladol, ac i rai, osgoi cost ar ffurf cosbau rheoleiddiol.
    • Gwybodaeth ac arweiniad sy'n mynd i'r afael â materion byw mewn ffordd ymarferol, gan leihau’r posibilrwydd o ddyblygu gwaith.
    • Cefnogaeth i'n haelodau i ddatblygu prosesau ansawdd perthnasol ac effeithlon sy'n rhyddhau capasiti.

    Lle QAA ymhlith asiantaethau sector y DU

     

    Mae'r diagram hwn wedi'i ddefnyddio ar gyfer trafodaeth gyda rhanddeiliaid QAA. Daw'r gweithgareddau a restrir ar gyfer yr asiantaethau eraill o'u strategaethau cyhoeddedig, ond ni fwriedir iddynt fod yn rhestrau cyflawn. Y croestoriadau a ddangosir yw'r rhai sy'n berthnasol i waith QAA, felly nid yw›r rhain ychwaith yn hollgynhwysfawr.

     

    ""

    Lawrlwythwch y wybodaeth hon