Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

14 Mai 2019


Ymroddiad a balchder: 40 mlynedd ers cyflwyno Mynediad i AU





Julie Mizon
Rheolwr Mynediad i AU, QAA

I Sabine, dyma ei chyfle i wireddu ei breuddwyd oes o fod yn athrawes. I Paula, mae'n frwydr barhaus, ond bydd yn talu ei ffordd. Ac i Tommy, yn syml iawn, fe achubodd ei fywyd.


Mae'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Mynediad i AU) yn gymhwyster sy'n paratoi myfyrwyr sydd heb gymwysterau traddodiadol ar gyfer astudiaethau addysg uwch. Mae'n cyfrannu'n sylweddol at ehangu cyfranogaeth pobl, a gall newid bywydau'n gyfan gwbl.



Ledled y byd, mae pobl yn wynebu problemau a sialensiau cymhleth sy'n effeithio ar nifer o wahanol agweddau o'u bywydau.

Ym mis Ebrill 2019, cynhaliwyd ein Fforwm Mynediad i AU - oedd yn arwyddo 40 mlynedd ers i ni gael ein sefydlu - a chasglodd at ei gilydd bobl oedd â sialensiau cyffredin a fu'n ein helpu yn ein cenhadaeth barhaus i newid bywydau.


Yn y Fforwm, cawsom gwrdd ag wyth myfyriwr cyfredol a chyn-fyfyriwr Mynediad i AU, ac roedd gan bob un ohonynt stori wahanol.


Mae Paula a Vijaya hanner ffordd drwy gwrs Diploma Mynediad i AU mewn gofal iechyd. I Vijaya, roedd penderfynu mynd i ddiwrnod agored am y cwrs yn benderfyniad a newidiodd ei bywyd. Neidiodd i mewn i'r cwrs heb feddwl ddwywaith ond dywedodd ei fod wedi gweddnewid ei bywyd ac wedi agor cyfleoedd iddi'n barod.


I Paula, nid yw'r profiad wedi bod mor esmwyth. Fel cynorthwyydd gofal iechyd yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham, roedd Paula eisiau symud yn ei blaen a chychwynnodd y cwrs Mynediad i AU gyda'i llygaid yn llydan agored.


"Gwn y byddai'n anodd, ac mae'n anodd", meddai, gan gyfeirio at ei hanawsterau wrth geisio cydbwyso gwaith, astudio a gofalu am ei phlant. Ond, mae Paula yn canolbwyntio ar ei tharged - mynd yn ôl i Ysbyty'r Frenhines Elizabeth fel nyrs achosion brys.


Roedd cynrychiolwyr drwy'r Fforwm i gyd yn gallu uniaethu gyda'r pwysau sydd i'w deimlo wrth gyfuno astudiaethau dwys gydag ymrwymiadau gwaith a theulu. Yn achos Paula, mae hanner aelodau ei dosbarth wedi gadael y cwrs am na allent ymdopi. Mae'n broblem gyfarwydd i Ross Renton sy'n gweithio ym Mhrifysgol Caerwrangon ac sy'n ymgyrchu'n frwd i wella iechyd meddwl y myfyrwyr a'r staff.


Mae Prifysgol Caerwrangon wedi gweithio'n galed i greu cymuned groesawus, ddiogel a chynhwysol. Mae cymorth iechyd meddwl penodol yn cynnwys mentrau i ymdrin ag unigrwydd ac atal hunan-niweidio a hunan-ladd.


Mae chwarter poblogaeth y myfyrwyr yn dioddef o anhwylderau meddwl ymhob cyfnod o 12 mis, ac mae nifer yr achosion o bryder a hunan-barch isel wedi cynyddu'n sylweddol yn y gymuned LHDT. Y llynedd, arweiniodd Ross yr Orymdaith Balchder drwy Gaerwrangon. "Mae'n ymwneud â llawer mwy na dim ond yr hyn a wnawn ar y campws", meddai. "Yr hyn sy'n bwysig yw hyrwyddo lles yn y gymuned gyfan." Wrth wrando ar Ross a siarad gyda'r cynrychiolwyr yn y Fforwm, rwy'n sylweddoli mor bwysig yw hi i ymwreiddio iechyd meddwl yn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm ac amserlenni gwersi, yn ogystal â sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus i'r staff.


Y llynedd, roedd anhwylder iechyd meddwl gan 28% o'r 23,950 o fyfyrwyr a aeth i mewn i addysg uwch gyda Diplomâu Mynediad i AU. I golegau addysg bellach yn arbennig, gall fod yn anodd mynd i'r afael â'r sialensiau hyn. Dim ond 63% o golegau sydd â chymorth iechyd meddwl penodol, ac amser ac arian yw'r prif rwystrau.


Nid oes gan Rebecca, sy'n diwtor mewn coleg, unrhyw bobl neu wasanaethau pwrpasol i bwyso arnynt am gymorth pan fydd ei myfyrwyr Mynediad i AU yn mynd i drafferthion, a chafodd ei sesiwn diwtora wythnosol ei ganslo'n ddiweddar er mwyn arbed arian.


"Mae'n anodd", cyfaddefodd. "Roedd y sesiwn wythnosol yn gyfle i dynnu sylw at newidiadau a phroblemau ymysg y myfyrwyr yn y grŵp." Mae hi'n bwriadu cymryd y ffeithiau a'r ffigurau o'r Fforwm yn ôl i'w choleg er mwyn ceisio ailsefydlu'r sesiwn diwtora wythnosol.


Mae wedi fy sbarduno i ystyried sut y gallwn ddatblygu partneriaethau rhwng y meysydd addysg bellach ac uwch sy'n rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i ddysgwyr a darparwyr cyrsiau Mynediad i AU er mwyn rheoli problemau iechyd meddwl.


Un opsiwn cost isel efallai fyddai hyfforddi llysgenhadon myfyrwyr i helpu myfyrwyr sy'n graddio o gyrsiau Mynediad i ymdopi â'u trosglwyddiad i'r brifysgol. Opsiwn arall fyddai archwilio mwy o gyfleoedd allgymorth a ddarperir gan brifysgolion mewn perthynas â lles, gwytnwch ac iechyd meddwl mewn ysgolion, colegau a chymunedau, efallai mewn partneriaeth ag elusennau iechyd meddwl.


Yn ôl at ein panel myfyrwyr a Sabine, sy'n ceisio cydbwyso cwrs Mynediad i AU mewn addysgu gyda gofalu am bedwar plentyn mewn tair ysgol wahanol. "Ni all unrhyw un sydd heb wneud y cwrs ddeall mor llethol ydyw", meddai. "Ond nawr gallaf helpu fy mhlant gyda chyrsiau TGAU ac mae gen i fwy o hyder ym mywyd y teulu."


I Sabine, mae Mynediad i AU yn bont i'w harwain at gyflawni ei breuddwyd o fod yn athrawes iaith a llenyddiaeth. "Mae'r tiwtoriaid yn gwneud byd o wahaniaeth", meddai. "Maent yn deall y cyfrifoldebau sydd gan fyfyrwyr hŷn."


Mae Layla, sy'n fyfyriwr israddedig mewn peirianneg, hefyd yn fam ar bedwar o blant ac roedd mewn grŵp o wyth o fyfyrwyr hŷn ar ei chwrs Mynediad i AU mewn peirianneg. Ond, pan gyrhaeddodd y brifysgol roedd rhaid iddi addasu i sefyllfa lle'r oedd pawb arall yn ei dosbarth yn eu harddegau - a hi oedd yr unig ferch. "Roedd yn deimlad unig iawn", meddai. "Mae angen i'r darlithwyr fod yn ymwybodol ohonom a'r hyn y mae Mynediad i AU yn ei gynrychioli."’


Mae Jane, tiwtor Mynediad i AU sy'n addysgu mewn prifysgol, yn cytuno â hyn. "Nid yw rhai o'n tîm derbyn yn deall Mynediad i AU ac maent yn ei ystyried yn israddol i Lefelau A", meddai.


Mae'n amlwg bod gennym waith i'w wneud i greu gwell dealltwriaeth ymysg darparwyr addysg uwch o'r hyn sydd gan ddysgwyr Mynediad i AU i'w gynnig, yn ogystal â'r gefnogaeth ychwanegol y byddent efallai ei hangen i'w helpu i gyflawni eu potensial. Mae angen i ni ddatblygu hyfforddiant i dimau derbyn mewn prifysgolion a gwneud rhagor i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a'r llywodraeth am Fynediad i AU.


Tommy sy'n cael y gair olaf. Mae e'n cyfaddef yn agored bod ei fywyd wedi mynd â'i ben iddi pan ddaeth ei flwyddyn filwrol i ben yn gynnar am iddo gael canser. Cofrestrodd Tommy ar gwrs Diploma Mynediad i AU mewn gwaith cymdeithasol a chanfod y strwythur i'w gadw ar y llwybr cywir. "Fe achubodd fy mywyd", meddai.


Ewch i'r wefan Mynediad i AU i ganfod rhagor o wybodaeth am y cymhwyster ac i ddarllen rhagor o hanesion go iawn myfyrwyr Mynediad.