Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

15 Medi 2021


Rhoi'r pwyslais ar welliant - Ymagwedd Cymru at Ansawdd





Author



Alastair Delaney

Dyma Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr, QAA

Yr wythnos hon, daeth aelodau o'r sector addysg uwch yng Nghymru ynghyd ar gyfer digwyddiad Rhannu Arfer, wedi’i drefnu gan QAA fel rhan o ymrwymiad QAA i brosiect cydweithredol Cronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch (HEIR) Cymru-gyfan dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar ran Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu (LTN) Prifysgolion Cymru. Mae'r digwyddiad gwelliant hwn yn rhan o gyfres o weithgareddau gwelliant y mae sector addysg uwch Cymru yn cymryd rhan ynddynt , â’r nod o weithio ar y cyd i wella ansawdd profiad y myfyriwr. Dyma Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr QAA, Alastair Delaney yn dweud mwy wrthym.


 

Fel y gall unrhyw un sy'n gweithio ym maes addysg uwch ardystio, nid yw'n hawdd cyflawni nod neu uchelgais fel darparydd unigol. Mae cyflawni nod neu uchelgais a rennir fel sector yn golygu heriau hyd yn oed yn fwy. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnig mwy fyth o gyfle i drawsnewid. A dyma’r union weledigaeth y mae’r sector addysg uwch yng Nghymru wedi’i rhannu â ni, dyhead ar y cyd i ganolbwyntio mwy ar welliant yn eu dulliau o fynd i’r afael ag ansawdd.  Barn y sector oedd bod ffocws ar welliant yn cynnig mwy fyth o botensial i sicrhau'r profiad gorau posibl i bob myfyriwr mewn addysg uwch yng Nghymru.


Roedd QAA Cymru yn barod iawn i groesawu hyn, ac felly cychwynnwyd ar daith tuag at welliant, gydag amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer gwelliant, sydd wedi goresgyn y 18 mis diwethaf a phandemig byd-eang. Mae dull gwelliant yn annog sector Cymru i nodi meysydd ar gyfer gwella profiad myfyrwyr yn unigol ac ar y cyd, hyd yn oed pan fo trothwy ar gyfer ansawdd a safonau wedi’u sicrhau. Mae'r dull hwn yn datblygu diwylliant lle mae'r sector yn ymdrechu i fynd y tu hwnt i’r safonau trothwy a dangos rhagoriaeth. Mae diwylliant o'r fath wedi bod wrth galon system addysg uwch yr Alban ers bron i 20 mlynedd trwy ei Fframwaith Gwella Ansawdd y mae QAA yr Alban yn ei hwyluso mewn cydweithrediad â Chyngor Cyllido'r Alban (SFC) a'r sector addysg uwch yn yr Alban.


Wrth gyflawni uchelgeisiau'r sector, roedd yn hanfodol bod QAA Cymru yn mabwysiadu ac yn meithrin dull yn seiliedig ar egwyddorion cydweithredu a phartneriaeth. Ar ôl derbyn cynnig ysgrifenedig gan QAA, cytunodd Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru i roi ystyriaeth fanwl i ddull cydweithredol ar gyfer gwelliant ledled Cymru, wedi'i hwyluso gan QAA Cymru. Fe wnaeth cyfarfodydd cyswllt â darparwyr unigol yn ystod Hydref 2020 ein helpu i ddynodi blaenoriaethau a rennir, ynghyd â themâu posibl sy'n dod i'r amlwg ar gyfer cyfleoedd sy’n seiliedig ar welliant. Cyflwynodd cyfarfod pellach o Rwydwaith Ansawdd Cymru yn Nhachwedd 2020 y syniad o weithio ar y cyd trwy brosiectau’n seiliedig ar themâu, dan arweiniad y sector gyda chefnogaeth QAA Cymru. Mae’r model hwn wedi’i weithredu’n llwyddiannus yn yr Alban eisoes trwy glystyrau cydweithredol QAA yr Alban.


Yn dilyn cytundeb ymysg y sector yng Nghymru y byddai'r ymagwedd thematig hon tuag at welliant yn ffordd addas o symud ymlaen, trefnodd QAA Cymru sesiwn gynllunio gwelliant ar gyfer aelodau Cymru ym mis Rhagfyr 2020 ac ymrwymwyd arian i'r rhaglen hon, a elwir yn Brosiectau Gwelliant Cydweithredol. Ymgysylltwyd ymhellach â'r sector rhwng Ionawr a Mawrth eleni, oedd o gymorth i ni fireinio themâu posibl ymhellach ar gyfer ein prosiectau cydweithredol. Yn dilyn y cyfnod hwn o gydweithio, cynhaliwyd sesiwn gynllunio gwelliant pellach ym mis Mawrth 2021, oedd yn gyfle i rannu syniadau o'r cyfnod ymgysylltu sefydliadol, gan ddarparu fforwm ychwanegol ar gyfer trafod themâu a phynciau, yn ogystal â hwyluso'r cyfle i gydweithio ar draws darparwyr sy'n allweddol i ddull gwelliant. Arweiniodd hyn hefyd at lansio mynegiadau o ddiddordeb ar gyfer prosiectau gwelliant cydweithredol.


Yn dilyn cau’r mynegiadau o ddiddordeb, mae gennym bellach bum prosiect gwelliant cydweithredol yng Nghymru, a ddechreuodd yn y flwyddyn academaidd 2020-21 ac a fydd yn parhau i mewn i’r flwyddyn academaidd 2021-22. Dyma nhw:


  • Asesiad Arloesol - Arweinydd: Prifysgol Aberystwyth (Prifysgol Caerdydd, PCyDDS, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor)
  • Ymgysylltiad Myfyrwyr â Dysgu - Arweinydd: Prifysgol Bangor (Grŵp Llandrillo Menai)
  • Menter Gyflogadwyedd Cyfrwng Cymraeg - Arweinydd: Prifysgol De Cymru (Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, Y Coleg Merthyr Tudful)
  • Ymgorffori gwersi COVID-19 a ddysgwyd i wella cymunedau dysgu - Arweinydd: Prifysgol De Cymru (Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, NPTC)
  • Datblygu adnoddau ar gyfer myfyrwyr Ôl-Raddedig Ymchwil i’w cynorthwyo i baratoi am eu viva - Arweinydd: Prifysgol De Cymru (Cynghrair y Brifysgol, Prifysgol Huddersfield, Prifysgol Coventry).*

*Ariennir y prosiect hwn trwy gyllido ar gyfer gwelliant cydweithredol yng Nghymru, ond daeth i fodolaeth trwy gais gan aelodaeth ledled y DU.


Mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru hefyd yn ymgymryd â gwaith ar welliant y tu hwnt i'r Prosiectau Gwelliant Cydweithredol trwy gyllido a ddyrannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) o Gronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch (HEIR) Llywodraeth Cymru. Mae gweithgareddau penodol o fewn y rhaglen gyllido hon yn cynnwys adolygiad thematig dan arweiniad QAA o ddysgu digidol a'r digwyddiad Rhannu Arfer dan arweiniad QAA a gynhaliwyd yn gynharach yr wythnos hon. Nod y prosiect cyffredinol ar gyfer Cymru-gyfan, dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar ran LTN Prifysgolion Cymru, yw sicrhau cynaladwyedd datblygu'r cwricwlwm digidol ar draws y sector, casglu a gwerthuso canfyddiadau myfyrwyr o effeithiolrwydd dysgu digidol a dathlu arfer gorau, ynghyd â sefydlu cynllun gwella dysgu digidol ar draws y sector.


Cyhoeddir galwad arall am gyflwyniadau ar gyfer Prosiectau Gwelliant Cydweithredol ychwanegol yn 2021-22 yn ddiweddarach eleni, ac mae QAA yn dymuno cynnig cymorth i’r Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu gydag adolygiad thematig pellach ar ôl cwblhau’r adolygiad cyntaf, cyn belled â bod yr arian ar gael ar gyfer hynny. Wrth i'r holl brosiectau hyn ddatblygu trwy bartneriaeth gydweithredol yn ystod y flwyddyn nesaf, nod y sector yw dangos gwerth a phwysigrwydd ymagwedd sy’n seiliedig ar welliant ar gyfer ansawdd mewn addysg uwch er budd myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru.


Dyma'r cyntaf mewn cyfres o flogiau sy'n canolbwyntio ar welliant y bydd QAA yn eu cynnal yn ystod y flwyddyn nesaf. Dros y misoedd nesaf, bydd cynrychiolwyr o sector addysg uwch Cymru yn rhannu mewnwelediadau ac arsylwadau o'u cyfranogiad yn y Prosiectau Gwelliant Cydweithredol a gweithgareddau eraill sy'n canolbwyntio ar welliant.


Os oes gennych chi ddiddordeb mewn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am waith QAA yng Nghymru, gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr chwarterol QAA Cymru.