Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

6 Rhagfyr 2021


Prosiect Deunyddiau Dysgu Digidol Cymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol





Author



Delyth Ifan

Coleg Cymraeg Cenedlaethol


 

 

 

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 i gynllunio a chefnogi darpariaeth Addysg Uwch trwy gyfrwng y Gymraeg mewn modd strategol ar draws Prifysgolion Cymru.

Nod y Coleg yw gweithio gyda darparwyr i sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i ddysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid yng Nghymru.

Gan ymhelaethu ar ei sesiwn yng nghynhadledd Buddsoddiad ac Adferiad AU ym mis Medi 2021, mae Delyth Ifan, yn ysgrifennu am Brosiect Adnoddau Dysgu Digidol Cymraeg.

Ychydig wythnosau cyn y cyfnod clo cyntaf, cyhoeddodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei Gynllun Strategol diweddaraf. Ymhlith y blaenoriaethau strategol mae ‘Cyfoethogi profiad myfyrwyr a dysgwyr’, ac yn greiddiol i’r flaenoriaeth honno mae:

  • creu adnoddau dysgu o’r ansawdd uchaf i fyfyrwyr, a
  • chefnogi dysgu cyfunol ac ar-lein o’r radd flaenaf.

Yn ddi-os, mae cael mynediad at adnoddau dysgu o bob math yn y Gymraeg yn eithriadol o bwysig i fyfyrwyr pan fyddan nhw’n dewis astudio yn y Gymraeg. Wrth gofrestru ar gyrsiau, un o bryderon pennaf myfyrwyr yw faint o adnoddau fydd ar gael iddynt yn y Gymraeg.

 

Pan darodd COVID, daeth cael mynediad at adnoddau hyd yn oed yn fwy pwysig, wrth i’r dysgu yn ystod y cyfnod clo cyntaf ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar ddulliau dysgu o bell a dysgu cyfunol.

 

O ran y Gymraeg, roedd risg difrifol y byddai adrannau yn gorfod blaenoriaethu grwpiau dysgu mawr a modiwlau craidd poblog – a fyddai’n anochel yn gyfrwng Saesneg. Byddai hyn wedi arwain at leihau cyfleoedd i fyfyrwyr astudio yn y Gymraeg, a byddai myfyrwyr cyfrwng Cymraeg wedi cael profiad dysgu eilradd.

 

Pan ddaeth cyhoeddiad CCAUC eu bod am sefydlu Cronfa Adfer a Buddsoddi, a bod cyfle i sefydliadau ymgeisio am gyllid ar gyfer cynlluniau a fyddai’n ymwneud â lliniaru effeithiau’r pandemig, roedd yn gyfle perffaith i ddatblygu gwaith adnoddau’r Coleg ymhellach. Roedd yn gyfle i helpu staff academaidd yn y tymor byr i dynnu ynghyd adnoddau a fyddai’n eu helpu nhw gyda’u dysgu mewn amgylchedd rithiol; ac roedd yn gyfle hefyd i greu adnoddau ansawdd uchel i’r tymor hir a fyddai’n cynyddu’r arlwy dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr ar draws y sector cyfan yng Nghymru.

 

Felly, beth yn union yw’r Prosiect Deunyddiau Dysgu Digidol? Yn wahanol i bwyslais prosiectau adnoddau blaenorol y Coleg, oedd yn canolbwyntio ar greu adnoddau i ategu’r dysgu, mae pwyslais y prosiect hwn wedi bod ar y delivery ei hun. Hynny yw, ar gefnogi dysgu anghydamserol.  Y nod felly yw cynhyrchu pecyn o adnoddau yn troi o gwmpas darlithoedd sydd wedi eu recordio ymlaen llaw; sleidiau PwerBwynt; testun naratif yn esbonio cyd-destun y cynnwys; cwisiau, a chwestiynau / pwyntiau trafod y gall myfyrwyr eu lawrlwytho, eu hystyried, a’u hateb cyn mynd i seminar – ar sail y cysyniad o ddysgu wyneb-i-waered (flipped classroom); llyfryddiaeth a dolenni at ddeunydd darllen a gwybodaeth bellach.

Image for Blog (Delyth Ifan)

Penderfynwyd, ar y cyd â chynrychiolaeth o bob prifysgol, i ganolbwyntio ar chwe phwnc blaenoriaeth, ar sail poblogrwydd y pynciau hyn yn y prifysgolion, a’r niferoedd sy’n eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Y pynciau hynny yw:

  • Astudiaethau Busnes
  • Gwyddorau Cymdeithas
  • Seicoleg
  • Gwyddorau Chwaraeon
  • Y Gyfraith
  • Gwaith Cymdeithasol

Rhoddwyd cyfle ar ddechrau’r prosiect i gynrychiolwyr o’r sefydliadau i adnabod lle mae’r tir cyffredin yn narpariaeth yr holl sefydliadau a chytuno pa ddarpariaeth a modiwlau sy’n cynnig y cyfleoedd gorau i gydweithio a rhannu arbenigedd. Nid oedd rhaid i’r modiwlau gyfateb yn union rhwng sefydliadau, ond roedd angen adnabod themâu cyffredin yn y ddarpariaeth, fel bod modd rhannu’r deunyddiau rhwng cynifer o sefydliadau â phosib.

 

Ym mis Ionawr 2020 gwahoddwyd y sefydliadau i enwebu unigolion o blith eu staff i ymgymryd â rôl Cydlynwyr Pwnc ac i fod yn Gyfranwyr Pwnc. Mae mwyafrif cyllid y prosiect yn cael ei ddefnyddio i ‘brynu’ amser yr unigolion hyn ac er mwyn eu rhyddhau o rai o’u dyletswyddau yn eu sefydliadau.

 

Penodwyd dau dechnolegydd e-ddysgu hefyd, i ddarparu arweiniad technegol gwerthfawr i’r darlithwyr, gan gynnwys cyngor ar faterion yn ymwneud â hygyrchedd. Mae sicrhau bod yr adnoddau yn cwrdd fan leiaf â gofynion sylfaenol hygyrchedd wedi bod yn rhan bwysig o’r prosiect.Yn ogystal â hyn, darperir gwasanaeth golygydd iaith i’r cyfranwyr er mwyn cysoni safon y deunyddiau, a gwasanaeth terminolegydd er mwyn sicrhau bod y termau cywir yn cael eu defnyddio, a bod termau newydd yn cael eu bathu lle bo angen, a’u hychwanegu at Porth Termau Cenedlaethol Cymru.

 

Mae’r Coleg yn darparu gwasanaeth canolog i’r prosiect, a hynny ar ffurf rheoli, cydlynu, a gweinyddu. Yn fy rôl fel Cydlynydd y prosiect, lluniais ganllawiau creu adnoddau ar ddechrau’r prosiect, yn darparu cyngor i’r cyfranwyr ar faterion iaith, hawlfraint, termau, a hygyrchedd, ac o ddydd i ddydd rwy’n cydlynu’r timoedd prosiect, y golygyddion iaith a’r terminolegydd.

 

O ran llwyfannu, bydd mynediad at yr holl ddeunyddiau drwy Porth Adnoddau y Coleg; a bydd pob fideo ar gael dan wahanol gategorïau i’w ffrydio neu lawrlwytho. Bydd yr holl adnoddau ar gael hefyd ar Blackboard y Coleg yn eu ffurf wreiddiol fel bod modd lawrlwytho’r cydrannau unigol i’w defnyddio yn ôl yr angen.

 

Bydd y cynllun hwn nid yn unig yn cynnig datrysiad tymor byr, ond hefyd ddarpariaeth am y tymor hir, gan fod dulliau dysgu cyfunol yn debygol o ddod yn ‘norm’, a mwy o bwyslais yn y dyfodol ar gyfuniad o dechnegau dysgu cydamserol ac anghydamserol.

 

Ar yr wyneb, gwaddol y prosiect hwn fydd 150 awr o ddarlithoedd ar draws chwe phwnc, fydd yn diogelu a chyfoethogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, mae potensial gwrioneddol iddo hefyd fod yn sylfaen ar gyfer cydweithio a chyd-gynllunio pellach rhwng prifysgolion Cymru i greu rhagor o adnoddau i’r dyfodol