Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

16 Ebrill 2019


Hanner ffordd i fyny i'r grisiau: Adroddiad ar gynnydd y Thema Gwelliant bresennol yn yr Alban





Ailsa Crum
Pennaeth Sicrhau a Gwella Ansawdd, QAA yr Alban

Bydd y rheiny ohonoch sy'n mwynhau A. A. Milne yn deall mai yn y fan hyn, hanner ffordd drwy'r Thema Gwelliant bresennol yn yr Alban, y mae'r lle delfrydol i eistedd ac ystyried y camau a gymerwyd gennym tuag at gyflawni ein nod o wella profiad y myfyrwyr.


Mae'r Themâu Gwelliant yn galluogi i sefydliadau addysg uwch yn yr Alban gyflawni mwy drwy weithio ar y cyd nag y gallent ei wneud yn unigol. Mae'r Themâu'n edrych tuag allan, gan ddysgu o arferion ledled y gymuned ryngwladol. Maent yn canolbwyntio ar y dyfodol er mwyn rhagweld y tueddiadau sydd ar y gweill. Maent yn gynhwysol, yn gofyn bod sefydliadau, eu staff a'u myfyrwyr yn cydweithio i rannu arferion a datblygu syniadau newydd.


Mae'r Thema bresennol dan y teitl 'Tystiolaeth ar gyfer Gwelliant: Gwella Profiad y Myfyrwyr' yn rhedeg hyd haf 2020. Mae'n gofyn nifer o gwestiynau i'r sector addysg uwch yn yr Alban:

  • Pa wybodaeth sy'n ddefnyddiol i'n helpu i ganfod a gwerthuso'r pethau a wnawn yn dda a'r pethau a allai gael eu gwella?
  • Oes gennym ni'r wybodaeth gywir?
  • Ydyn ni'n gwneud y defnydd gorau o'r wybodaeth sydd gennym?

Yn sicr, mae digonedd o ddata ar gael, ond gall fod yn fwy heriol i geisio sicrhau bod gennym yr wybodaeth fwyaf defnyddiol i helpu i gefnogi gwelliannau ym mhrofiad y myfyrwyr. I staff a myfyrwyr prysur, gall fod yn her go iawn i geisio deall yr hyn mae'r data sydd ar gael yn ei ddweud wrthym - yn enwedig pan mae fel petai'n tynnu'n groes i'w gilydd.


Mae gwella sgiliau'r staff a'r myfyrwyr mewn defnyddio data wedi bod yn elfen allweddol o'r Thema hyd yn hyn. Rydym wedi gweithio gyda chynllunwyr prifysgolion i gynhyrchu canllaw ynghylch llywio drwy'r tirlun data, ac rydym wedi creu cyfres o weminarau misol gydag amrywiaeth o arbenigwyr o'r tu mewn a'r tu allan i'r sector yn yr Alban, sy'n cynnwys Liz Austen o Brifysgol Sheffield Hallam. Rydym hefyd yn ariannu prosiect cydweithredol i arweinwyr rhaglen er mwyn cefnogi eu dealltwriaeth o'r dystiolaeth.


Os yw Thema Gwelliant yn mynd i lwyddo, mae'n rhaid i'r sector gymryd perchnogaeth arno ac mae'n rhaid iddo ledaenu drwy'r sector. Ar hyn o bryd, ein Harweinydd Thema yw'r Athro Alyson Tobin (Is-Bennaeth Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Napier Caeredin), sy'n cymryd yr awenau gan yr Athro Karl Leydecker (gynt o Brifysgol Dundee) a lansiodd y Thema. Yn ogystal, mae dau ddirprwy arweinydd ac un arweinydd arall sy'n fyfyriwr.



Mae'r Thema'n gweithio ar dair lefel: mewn sefydliadau, mewn clystyrau cydweithredol (sydd i bob effaith yn brosiectau rhyng-sefydliadol) a thrwy'r sector cyfan. Mae gan bob sefydliad gynllun ar gyfer y gwaith y byddent yn ei wneud yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â'r Thema - dyma rai o'r pynciau cyfredol:

  • natur y dystiolaeth
  • dulliau gwerthuso
  • gwella sgiliau'r staff a grymuso'r staff
  • dadansoddi data am y dysgu a datblygu dangosfyrddau
  • prosesau sicrhau ansawdd
  • nodweddion y myfyrwyr
  • llwyddiant, cadwraeth a chyflogadwyedd y myfyrwyr
  • ymgysylltiad y myfyrwyr a'u naws o berthyn
  • datblygu'r mannau dysgu a'r cwricwlwm
  • dysgu, addysgu, asesu a thechnoleg ddigidol.

Eleni, mae QAA Scotland yn cefnogi chwe chlwstwr cydweithredol sy'n cynnwys grwpiau o sefydliadau sy'n cydweithio ar brosiectau y maent yn eu cynllunio ac yn eu symud yn eu blaenau - dyma'r chwe chlwstwr:

  • cefnogi Arweinwyr Rhaglen
  • dadansoddi data am y dysgu
  • disgyblaethau creadigol
  • naws o berthyn gyda phecyn cymorth ar-lein
  • dulliau mesur y tu hwnt i'r metrigau
  • gwybodaeth am swyddi'r graddedigion.

Mae ymgysylltiad myfyrwyr yn un o dri maes craidd i ganolbwyntio arnynt ar draws y Thema. Mae gan y myfyrwyr gynrychiolaeth gyfartal ar Grŵp Arweinwyr y Thema lle mae pob un o'r 19 o sefydliadau yn yr Alban wedi'u cynrychioli gan un aelod o blith y staff ac un arall o blith y myfyrwyr. Cefnogir prosiect sylweddol a arweinir gan y myfyrwyr, ac mae hwn wedi darparu cyfres o ddeunyddiau sy'n cynnwys cyfres o egwyddorion ar gyfer ymateb i lais y myfyrwyr, trosolwg rhyngwladol o'r arferion a set o gardiau gweithgaredd sydd ar gael i'w defnyddio gan y staff a chymdeithasau'r myfyrwyr fel ei gilydd. Mae'r galw am y cardiau wedi bod yn uchel iawn ar draws y sector addysg uwch yn yr Alban a thu hwnt, gan gynnwys yn Sri Lanca.


Mae'r Themâu Gwelliant yn dal i ddenu diddordeb sylweddol o'r tu allan i'r DU. Yn ystod y Thema bresennol yn unig, mae cydweithwyr o Ddenmarc, Norwy, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd wedi ymweld i ganfod rhagor. Mae De Affrica ac, yn fwy diweddar, Seland Newydd wedi mabwysiadu eu fersiynau eu hunain o'r Themâu Gwelliant i gefnogi newid mewn diwylliant o amgylch profiad dysgu'r myfyrwyr yn eu prifysgolion.


Felly, mae'r Thema'n uchelgeisiol, ond sut fyddwn ni'n gwybod os ydym wedi gwir wella profiad y myfyrwyr fel y mae teitl y Thema bresennol yn ei honni? Daw cerdd A. A. Milne i'r casgliad nad yw hanner ffordd i fyny i'r grisiau yn unrhyw le penodol … mae'n rhywle arall mewn gwirionedd. Er bod manteision na fwriadwyd yn codi'n aml iawn o ganlyniad i wella arferion, bydd gennym olwg clir ar ein cyflawniadau diolch i werthusiad systematig o'r effaith gyda chefnogaeth ymgynghorwyr Liz Thomas Associates. Byddwn yn dangos yn glir ymhle yr ydym yn eistedd ac i ba raddau yr ydym wedi gwella profiad y myfyrwyr mewn gwirionedd gyda'n ffocws ar dystiolaeth ar gyfer gwelliant.


Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth ar www.enhancementthemes.ac.uk.


Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Gwelliant ac ymunwch yn y drafodaeth ar Twitter ar #ETEvidence.