Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Y newyddion diweddaraf



Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru a ariennir gan CCAUC: Symposiwm 2024

Dyddiad: Mehefin 6 - 2024
Lleoliad: Ar-lein


Dydd Iau 6ed Mehefin,  9:00 – 17:00 BST, (Ar-lein)

Mewn partneriaeth â Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru a ariennir gan CCAUC, mae QAA yn cynnal yr ail Symposiwm Uniondeb Academaidd ddydd Iau 6ed Mehefin rhwng 9.00 – 17.00 (BST). Ariennir y digwyddiad gan CCAUC.

Sefydlwyd RhUAC ym mis Medi 2021 trwy drefniadau grant gyda CCAUC ac mae’n cynrychioli ymrwymiad y sector addysg uwch yng Nghymru i gryfhau uniondeb academaidd, hyrwyddo arfer asesu cynhwysol a diledryw, a brwydro yn erbyn camymddwyn academaidd. Sylfaen y Rhwydwaith yw Siarter Uniondeb Academaidd QAA, dogfen y mae holl brifysgolion Cymru wedi’i llofnodi.

Caiff y Rhwydwaith ei gadeirio gan yr Athro Michael Draper (Prifysgol Abertawe) a Dr Mike Reddy (Prifysgol De Cymru) sydd hefyd yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Uniondeb Academaidd y DU.

Mae’r aelodaeth ehangach yn cynrychioli staff, myfyrwyr a dysgwyr o bob darparydd addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru, sy’n cynnwys y naw prifysgol a dau goleg addysg bellach, ac UCM Cymru. O 2023-24 ymlaen, mae’r Rhwydwaith yn agored i bob darparydd addysg drydyddol yng Nghymru, gan adlewyrchu’r newid i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) newydd.

Bydd y symposiwm sydd i ddod yn seiliedig ar themâu’r Rhwydwaith:

  • arfer asesu cynhwysol a diledryw
  • asesu digidol
  • arfer arloesol mewn deallusrwydd artiffisial
  • myfyrwyr a dysgwyr fel cyd-grewyr asesu
  • y Gymraeg ac uniondeb academaidd.

Mae'r Symposiwm yn derbyn cynigion ar gyfer y digwyddiad tan 10 Ebrill am 17:00.

Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i staff, myfyrwyr a dysgwyr mewn darparwyr addysg drydyddol, gan gynnwys:

  • Staff Academaidd
  • Staff Gwasanaethau Proffesiynol
  • Cynrychiolwyr myfyrwyr a dysgwyr
  • Cyrff cynrychioli myfyrwyr a dysgwyr, gan gynnwys timau cynghori myfyrwyr a dysgwyr / cymorth myfyrwyr a dysgwyr
  • Staff, myfyrwyr a dysgwyr eraill sydd â diddordeb mewn asesu ac uniondeb academaidd.

Cofrestru

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru


Y Blog


Ar ein blog, mae awduron gwadd ac arbenigwyr QAA yn trafod materion sy'n hynod bwysig i'n sector, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.