Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Y newyddion diweddaraf



Rhwydwaith Ansawdd Cymru

Dyddiad: Tachwedd 30 - 2023
Lleoliad: Ar-lein


Dydd lau 30 Tachwedd 2023, 10:00 – 12:30 (ar-lein)

Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru (RhAC) yn grŵp QAA sy’n cael ei arwain gan yr Aelodau, dan gadeiryddiaeth Dr Myfanwy Davies, Pennaeth Gwella Ansawdd ym Mhrifysgol Bangor. Ei nod yw darparu cymorth i ymarferwyr ansawdd yng Nghymru ar faterion polisi ac arfer mewn meysydd sy'n ymwneud ag ansawdd dysgu ac addysgu, sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd. Amcan y Rhwydwaith yw mynd ati ar y cyd i wella addysg uwch yng Nghymru, drwy rannu gwybodaeth a chynnig sylwadau ar eich arferion a'ch heriau.  

Fel rheol mae'n cwrdd tair gwaith y flwyddyn, ac yn cynnal sesiynau trafod wedi’u targedu rhwng cyfarfodydd ffurfiol o’r Rhwydwaith.  

Mae trafodaethau blaenorol wedi cynnwys:

  • Canmoliaethau o Adolygiadau Gwella Ansawdd
  • Datblygu Micro-gymwysterau
  • Arholi Allanol
  • Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch
  • Rhaglenni a Phrosiectau Cydweithredol Cymru-gyfan
  • Diweddariadau rheolaidd gan QAA a CCAUC
  • Cyfraniadau o bob rhan o’r DU, gan gynnwys yr Alban a’r Themâu Gwelliant

Mae Rhwydwaith Ansawdd Cymru’n agored i aelodau QAA yn holl wledydd y DU.

Mae adnoddau o’r Rhwydweithiau ar gael ar Wefan Adnoddau’r Aelodaeth


Cofrestru

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru


Y Blog


Ar ein blog, mae awduron gwadd ac arbenigwyr QAA yn trafod materion sy'n hynod bwysig i'n sector, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.