Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Y newyddion diweddaraf



Paratoi ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd: dynodi blaenoriaethau gwelliant

Dyddiad: Mawrth 19 - 2024
Lleoliad: Ar-lein


Dydd Mawrth, 19eg Mawrth 2024, 11:30 - 13:30

Bydd y Digwyddiad Paratoi ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd nesaf yn weithdy sy’n ymdrin â dynodi blaenoriaethau gwelliant.

Bydd y gweithdy hwn yn adeiladu ar ddau ddigwyddiad blaenorol, oedd yn rhoi sylw i ddatblygiad yr Hunan-ddadansoddiad a'r sylfaen dystiolaeth. Caiff y gyfres hon o ddigwyddiadau ei hariannu trwy drefniadau grant gyda CCAUC.

Mae'r gweithdy ar ddynodi blaenoriaethau gwelliant wedi’i gynllunio i gynorthwyo darparwyr i wneud y canlynol:

  • Dynodi meysydd gwelliant a flaenoriaethir i'w hadolygu;
  • Ystyried blaenoriaethau gwelliant fel y maent yn berthnasol i'r diffiniad o welliant;
  • Cyflwyno tystiolaeth ar gyfer blaenoriaethau gwelliant.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at Uwch Arweinwyr Ansawdd, a bydd o gymorth i swyddogion myfyrwyr / staff sy’n wynebu myfyrwyr wrth ymwneud ag adolygiad ansawdd allanol.

Anogir cynrychiolwyr yn gryf i ddarllen adrannau perthnasol y Llawlyfr Adolygiad Gwella Ansawdd cyn y gweithdy.


Cofrestru

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ar ein gwefan gofrestru


Y Blog


Ar ein blog, mae awduron gwadd ac arbenigwyr QAA yn trafod materion sy'n hynod bwysig i'n sector, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.