Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Ymgynghoriad ar ddull diwygiedig o adolygu darparwyr amgen

Dyddiad: Mawrth 27 - 2024

Mae QAA wedi cyhoeddi manylion proses o ymgynghori ar weithrediad ei dull newydd arfaethedig o wneud Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol. Y bwriad yw y bydd y dull newydd yn cymryd lle'r gyfres bresennol o bedwar dull o adolygu a monitro 'darparwyr amgen' - sef darparwyr preifat sy'n cynnig cyrsiau addysg uwch yn y DU ond nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus gan unrhyw un o'r cyrff sy'n cyllido neu'n rheoleiddio addysg uwch yn y DU.

Rydym yn ceisio cael sylwadau am y broses ymgynghori hon gan ddarparwyr addysg uwch ac addysg bellach, eu cyrff cynrychioli, cyrff eraill yn y sector addysg uwch, adrannau'r llywodraethau a'r myfyrwyr.

Lluniwyd y dull arfaethedig i uno amrywiol arferion hanesyddol ac i ddiweddaru'r iaith a'r prosesau a ddefnyddir er mwyn adlewyrchu realiti cyfoes y ddarpariaeth addysg uwch yn y DU yn well.

Mae'r ymgynghoriad yn tynnu sylw at 10 cynnig yn ymwneud â'r dull adolygu newydd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  •  y drefn o gategoreiddio darparwyr
  • elfennau'r broses adolygu
  • un dull o wneud gwiriad o gynaliadwyedd, rheolaeth a llywodraethu ariannol
  • amserlenni dangosol y broses adolygu
  • trefniadau symlach ar gyfer gwneud cais
  • dull safonol o adolygu a dadansoddi
  • beirniadaethau posibl yr adolygiad a'r camau gweithredu i'w cymryd mewn ymateb iddynt
  • y trefniadau monitro
  • y drefn ffioedd
  • trefniadau pontio.

Meddai Adam Surtees, Rheolwr Gwasanaethau Asesu QAA: "Mae hwn yn gyfle pwysig i randdeiliad gymryd rhan mewn gweithgaredd y gobeithiwn y bydd yn golygu gwelliant sylweddol yn ein prosesau yn y maes hwn. Gobeithiwn yn fawr y bydd trawstoriad eang o'r sector yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad."

Mae'r ymgynghoriad hwn yn agored am chwe wythnos o heddiw. Mae ein cynigion i'w gweld ar ein gwe-dudalen am yr ymgynghoriad, a gallwch ymateb iddynt drwy gwblhau'r arolwg ar-lein.

Byddwn yn cynnal gweminar i ateb unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn ar Ddydd Mercher 10 Ebrill. I gadw eich lle, ewch i'n gwefan gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Hefyd, rydym yn croesawu unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad a'r dull arfaethedig. Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at AssessmentServices@qaa.ac.uk.