Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn ymateb i ymgynghoriad prentisiaethau Medr

Dyddiad: Tachwedd 5 - 2025

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi cyhoeddi eu hymateb i ymgynghoriad ar y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru a lansiwyd gan Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru.

Mae ymateb QAA yn pwysleisio eu cefnogaeth i'r egwyddorion arfaethedig, yn enwedig ffocws y rhaglen ar hyblygrwydd, ymatebolrwydd a chynhwysiant.

Mae QAA yn argymell y dylid gwneud ansawdd yn fwy eglur yn y cynigion, gan sicrhau bod disgwyliadau clir ar gyfer safonau, profiad dysgwyr a gwelliant parhaus yn sail i ddylunio a chyflwyno rhaglenni.

Ymhlith pwyntiau eraill, mae QAA hefyd yn argymell mwy o bwyslais ar ymgysylltiad cyflogwyr fel egwyddor ynddo'i hun, eglurhad o lwybrau dilyniant, ac ymgorffori ymatebolrwydd digidol.

Mae ein hymateb yn mynegi gweledigaeth ar gyfer dyfodol darpariaeth prentisiaethau yng Nghymru fel system gydlynol, i bob oed, wedi’i chefnogi gan fecanweithiau tryloyw ar gyfer trosglwyddo credydau, gan ddangos tystiolaeth glir o ehangu cyfranogiad. Hyn wedi'i ategu gan arfer sy'n cael ei arwain gan welliant, sicrwydd cyson o safonau, a defnydd effeithiol o ddata, adborth a phrosesau hunanwerthuso.

Mae ymateb llawn QAA i'r ymgynghoriad ar gael ar ein gwefan.

Mae disgwyl i’r Rhaglen Prentisiaethau newydd yng Nghymru ddechrau ar 1af Awst 2027.