Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn lansio ymgynghoriad ar lawlyfr diwygiedig ar gyfer Adolygu Gwella Ansawdd (Cymru)

Dyddiad: Mai 12 - 2023

Mae QAA yn gwahodd cyfraniadau i ymgynghoriad ar lawlyfr diwygiedig ar gyfer Adolygu Gwella Ansawdd (QER), sef y dull a ddefnyddir i adolygu darparwyr addysg uwch yng Nghymru fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru. Bydd y dull diwygiedig yn cael ei roi ar waith yn 2023-24. Mae’r dull adolygu wedi’i ddiweddaru er mwyn cymryd i ystyriaeth y gofynion a wnaed gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer adolygiad ansawdd allanol, wedi’i ddiweddaru a’i gyhoeddi ym mis Mawrth 2022. 

Mae QAA wedi gweithio'n helaeth gyda'r sector addysg uwch yng Nghymru wrth adolygu a diwygio'r llawlyfr. Mae QAA wedi trefnu gweithdai sy'n agored i ddarparwyr a'u partneriaid a ddilyswyd, eu cynrychiolwyr myfyrwyr, ac adolygwyr QAA. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda darparwyr unigol a thrafodwyd cynnydd gyda Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru. Mae'r broses wedi'i goruchwylio gan grŵp cynghori ar y Dull ar gyfer Adolygiad Ansawdd Allanol (Cymru) sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, ledled y DU ac yn rhyngwladol, i gynghori QAA ar sut i ddefnyddio canfyddiadau'r gweithdai a'r cyfarfodydd hyn. Drwy'r broses hon, mae QAA wedi ystyried safbwyntiau'r sector er mwyn cyflwyno proses adolygu fwy effeithiol a phenodol, tra'n lleihau'r baich ar ddarparwyr ar yr un pryd a chryfhau'r ffocws ar welliant.

Y meysydd ar gyfer datblygiad 

Amlinellir y prif feysydd ar gyfer datblygiad a newid yn y dull adolygu ar dudalen 5 y llawlyfr drafft.  

Sut i ymateb

Mae'r llawlyfr diwygiedig ar gael isod a dylid cyflwyno ymatebion drwy ein harolwg ar-lein.  

Sylwch, gan fod angen cwblhau'r arolwg ar un adeg, rydym wedi darparu cwestiynau'r ymgynghoriad mewn dogfen ar wahân i chi gyfeirio ati.   

Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 5pm ar 9 Mehefin 2023.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r llawlyfr terfynol ym mis Mehefin ynghyd â chanfyddiadau allweddol yr ymgynghoriad.