Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn datgelu strategaeth newydd ar gyfer eu gwaith ym maes addysg drydyddol

Dyddiad: Ebrill 5 - 2023

Rydym wedi cyhoeddi ein strategaeth newydd a fydd yn sail i waith QAA yn y dyfodol i sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr yn cael profiad addysgol o'r ansawdd uchaf posibl.

Mae’r ddogfen yn amlinellu ein pwrpas a’n heffaith arfaethedig o fewn y sector addysg drydyddol; mae’n nodi cwmpas ein gwaith gan gyfeirio at bedwar maes ffocws, ac mae hefyd yn amlygu newidiadau allweddol yn ein hymagwedd strategol sy’n adlewyrchu’r amgylchedd polisi esblygol.

Pedwar maes ffocws

 

Pedwar maes ffocws ein gwaith yw:

  • Safonau - Gwarchod cyfeirbwyntiau’r sector a thargedu canllawiau i sicrhau safonau academaidd a gwerth cymwysterau.
  • Sicrwydd a gwelliant - Cyflwyno dulliau arloesol ac uchel eu parch at ansawdd, gan alluogi sefydliadau a dysgwyr i gydweithio er mwyn gwerthuso eu harfer a pharhau i wella eu profiad dysgu.
  • Rhyngwladol - Ehangu ein gweithgarwch rhyngwladol, gan fanteisio ar enw da byd-eang QAA ac AU y DU, i ardaloedd newydd er budd addysg drydyddol y DU.
  • Arweinyddiaeth - Dylanwadu a chynnig cefnogaeth i lunwyr polisi, prifysgolion a cholegau, myfyrwyr a dysgwyr drwy fewnwelediad arbenigol wedi'i gyfathrebu'n glir.

Sut mae ein strategaeth wedi newid

 

Mae'r ddogfen yn amlygu esblygiad ein rôl mewn meysydd domestig a rhyngwladol mewn ymateb i'r amgylchedd polisi newidiol.

Dyma’r meysydd newid allweddol yn ein strategaeth:

Ein rôl ddatblygol yn y DU - Ar ôl penderfynu camu i ffwrdd o rôl ar wahân yn darparu adroddiadau i’r rheoleiddiwr yn Lloegr, bydd cyfle o’r newydd i wella ein harlwy i’r sefydliadau hynny sy’n aelodau yn Lloegr. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda’r sector i ddiwallu anghenion sefydliadau ar draws gwledydd y DU.

Ehangu ein gwaith i wasanaethu’r sector trydyddol ehangach – Bydd QAA yn ceisio adeiladu ar eu gwaith yn cefnogi dysgu gydol oes drwy ein harbenigedd sefydledig mewn credydau a micro-gymwysterau wrth i addysg uwch ac addysg bellach ddod at ei gilydd fwyfwy yn y maes hwn.

Mae ein gwaith rhyngwladol yn tyfu ac yn esblygu – Wrth i broffil rhyngwladol QAA barhau i dyfu, ac mewn nifer cynyddol o farchnadoedd, byddwn yn ceisio ehangu'r ddarpariaeth o'n gwasanaethau Adolygu Ansawdd Rhyngwladol ac Achredu Rhaglenni Rhyngwladol.

I gyd-fynd â lansio'r strategaeth newydd byddwn yn mynd ati i ddechrau adnewyddu brand QAA.

Meddai Prif Weithredwr QAA, Vicki Stott: 'Rydym yn falch iawn o ddatgelu ein strategaeth newydd a fydd yn sail i'r holl waith hanfodol y mae QAA yn ei wneud ar draws y sector addysg uwch. Wrth i'n rôl barhau i ddatblygu mewn amgylchedd polisi sydd o hyd yn newid, bydd y ddogfen hon yn arwain y gwaith o ddarparu ein harbenigedd a'n profiad digyffelyb ym maes sicrhau ansawdd i sefydliadau ledled y DU ac yn rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau'r 25 mlynedd diwethaf fel corff ansawdd arbenigol y DU.'