Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriadau Medr a Llywodraeth Cymru

Dyddiad: Gorffennaf 31 - 2025

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi cyhoeddi ei hymatebion i ymgynghoriadau a agorwyd gan Lywodraeth Cymru a gan Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru.

Mae QAA wedi ymateb i Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllido Medr ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Reoleiddio darparwyr addysg uwch a dynodiad ar gyfer cymorth i fyfyrwyr.

Yn ei hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, mynegodd QAA gefnogaeth i'r cynnig y dylai cofrestru gyda Medr fod yn rhagofyniad ar gyfer dynodi cyrsiau addysg uwch Cymru yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gan Lywodraeth Cymru. Roedd hefyd yn cydnabod yr angen am fwy o oruchwyliaeth a rheoleiddio ar ddarpariaeth trwy bartneriaeth ac o blaid ymdrechion i sicrhau bod pob darparydd sy'n elwa o ddynodiad awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu o fewn fframwaith wedi’i rheoleiddio ag iddi sicrwydd ansawdd.

Nodwyd hefyd bod yn rhaid i reoleiddio effeithiol fod yn gymesur, ac y dylid creu model cyfannol o oruchwyliaeth wedi'i seilio ar Gôd Ansawdd Addysg Uwch y DU. Aeth QAA ymlaen i nodi bod y system adolygu allanol sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru eisoes yn rhoi sicrwydd ynghylch ansawdd a llywodraethiant darpariaeth trwy bartneriaeth, gan gynnwys craffu ar drefniadau goruchwylio darparwyr dyfarnu.

Gellir darllen ymateb llawn QAA i'r ymgynghoriad hwnnw ar ein gwefan yma.

Yn ei hymateb i ymgynghoriad Medr, croesawodd QAA y bwriad i ddatblygu dull rheoleiddio sy'n gweithredu’n gyson ar draws y sector addysg drydyddol, gan nodi bod y pwyslais ar gymesuredd, tryloywder ac ymgysylltu sy'n seiliedig ar risg yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer yr uchelgais hon. Byddai hefyd yn annog mwy o eglurder ynghylch sut y bydd y dull yn darparu ar gyfer amrywioldeb y darparwyr a'r gwahanol lefelau o gymhlethdod a risg ar draws y sector.

Nododd hefyd y gellid gwahaniaethu rhwng ymgysylltu cefnogol a gorfodi rheoleiddiol yn fwy penodol, a byddai mwy o eglurder ynghylch sut mae materion a nodwyd trwy fonitro neu adolygiad allanol yn bwydo i'r penderfyniad i ymyrryd yn gwella tryloywder a hyder y sector.

Gellir darllen ymateb llawn QAA i'r ymgynghoriad hwnnw ar ein gwefan yma.