Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn cyhoeddi ei Hadolygiad Blynyddol 2021

Dyddiad: Rhagfyr 6 - 2021

Mae QAA wedi cyhoeddi ei Hadolygiad Blynyddol sy'n amlinellu'r effaith a gafodd ei gwaith yn ystod 2020-21 i ddiogelu safonau academaidd a sicrhau ansawdd ac enw da addysg uwch y DU drwy'r byd i gyd. Trwy gydol y flwyddyn, rydym wedi cefnogi ein haelodau i ymateb i'r pandemig a symud y tu hwnt iddo, gan gynhyrchu amrywiaeth o adnoddau ymarferol.

Dyma rai o'r pethau a gynhyrchwyd gennym i aelodau QAA yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21:

  • 138 o adnoddau
  • 85 o adnoddau newydd mewn ymateb i COVID-19
  • 40 o weminarau, 31 o ddigwyddiadau a 12 rhaglen hyfforddi.

Mae'r Adolygiad hefyd yn rhoi manylion ein gwaith gyda chyrff rheoleiddio, llywodraethau a myfyrwyr ledled y DU, gan dynnu sylw at ein gweithgareddau rhyngwladol a'n stiwardiaeth o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch.