Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn cyhoeddi argraffiad wedi ei ddiweddaru o'i Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau'r DU

Dyddiad: Chwefror 21 - 2024
Mae QAA wedi cyhoeddi ail argraffiad y Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau'r DU. Mae'r argraffiad hwn yn cynnwys diweddariadau cyd-destunol bach sy'n cymryd i ystyriaeth y newidiadau niferus a gafwyd yn nhrefniadau ansawdd y DU ers 2014 pan gyhoeddodd QAA argraffiad cyntaf ei dogfen 'Fframweithiau'.

Mae prif elfennau'r Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon (FHEQ) a'r Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Sefydliadau Addysg Uwch yn yr Alban (FQHEIS) yn parhau yr un fath.
Diweddarwyd y canllawiau sy'n rhan o'r ddogfen hon i adlewyrchu'r datblygiadau a gafwyd yn y rheoliadau sy'n berthnasol i'r sector, a nod y canllawiau wedi eu diweddaru yw cefnogi darparwyr sy'n defnyddio'r fframweithiau hyn. Mae pob un o'r fframweithiau'n pennu hierarchaeth lefelau cymwysterau ac yn disgrifio'r cyflawniad cyffredinol a ddisgwylir gan ddalwyr y prif fathau o gymwysterau ar bob un o'r lefelau.

Ni chafwyd unrhyw newidiadau yn nisgrifyddion y lefelau cymwysterau. Am y tro cyntaf erioed, mae'r ddogfen yn cynnwys disgrifiadau o'r pedwar prif ddosbarthiad safonau graddau baglor gydag anrhydedd, sy'n rhoi manylion y lefelau cyffredinol o sgiliau, priodoleddau, gwybodaeth ac ymddygiad a ddisgwylir ar lefel pob categori dosbarthu graddau.

Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gofynnir i gyrff dyfarnu graddau ddefnyddio'r fframwaith/fframweithiau perthnasol wrth osod a chynnal safonau academaidd. Wrth iddynt ddyfarnu cymwysterau, disgwylir iddyn nhw sicrhau bod gofynion y fframweithiau perthnasol yn cael eu bodloni. Wrth gwrs, mae croeso mawr i ddarparwyr yn Lloegr barhau i ddefnyddio'r fframweithiau, ond mae gofyn i ddarparwyr sydd wedi eu cofrestru gyda'r Swyddfa Myfyrwyr gydymffurfio â'r amod cofrestriad sy'n nodi'r safonau a gydnabyddir gan y sector.

Hefyd mae hwn, yr argraffiad wedi'i ddiweddaru o'r ddogfen, yn darparu fersiwn Cymraeg ohoni am y tro cyntaf erioed.

Meddai Dr Andy Smith, Rheolwr Ansawdd a Safonau QAA: "Mae'r argraffiad newydd hwn o'r fframweithiau addysg uwch yn ffrwyth blynyddoedd lawer o waith a thrafodaethau. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r ddogfen hon, am ei bod yn parhau i roi cefnogaeth ac arweiniad eglur a defnyddiol am drothwyon cymwysterau i ddarparwyr ar draws y sector cyfan."