Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn cefnogi diwrnod hawliau 2022

Dyddiad: Rhagfyr 7 - 2022

Ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg, mae QAA ynghyd â Chomisiynydd y Gymraeg yn annog pobl ifanc Cymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau ac yn cofio i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Mae’r digwyddiad hwn bellach yn un blynyddol, a chaiff ei gynnal ar y dyddiad y daeth Mesur y Gymraeg i rym dros ddegawd yn ôl.

Pobl ifanc yw canolbwynt yr ymgyrch eleni ac mae hynny’n hollol briodol yn ôl Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price:

'Mae’n swnio’n ystrydeb ond ein pobl ifanc ni yw ein dyfodol ac mae angen sicrhau felly eu bod yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddiogelu a defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. 

'Yn fy adroddiad sicrwydd diweddaraf fe nodwyd fod nifer yn teimlo bod y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyson wedi cynyddu ond bod angen i sefydliadau wella’r ffordd y maent yn hwyluso a gwarantu gwasanaethau Cymraeg.

'Yn yr un modd mae angen i ni ddefnyddio a mynnu ein hawliau ac mae’n braf gweld ein pobl ifanc yn arwain y ffordd. Cyfrwng yw’r diwrnod hwn i dynnu sylw at yr hawliau ond mae angen cofio eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn.'

Mae QAA yn falch o fod yn cefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg 2022. Dywedodd ac meddai Alastair Delaney, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr ar ran y mudiad,

'Mae'n bleser gan QAA gefnogi Diwrnod Hawliau'r Gymraeg am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Rydym wedi ymrwymo i'n gwaith yng Nghymru a'n goblygiadau dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Eleni byddwn yn darparu cyfleoedd ar gyfer codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ymysg ein staff ac yn hyrwyddo ein gwasanaethau dwyieithog ar gyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc yn cael profiad dysgu o ansawdd uchel yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac rydym yn parhau i gynnig cymorth i brosiectau a mentrau sy'n hyrwyddo cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.'  

Fel rhan o’r Diwrnod Hawliau eleni, mae fideo pwrpasol wedi ei greu sydd yn cynnwys nifer o bobl ifanc yn nodi eu hawliau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Un o’r rhai hynny sydd i’w gweld yn y fideo yw  Deio Owen sydd yn fyfyriwr 20 oed ym Mhrifysgol Caerdydd ond yn dod yn wreiddiol o Bwllheli:

'Rwy’n meddwl fod nodi diwrnod fel hyn yn bwysig gan ei fod yn ein hatgoffa ni gyd o’n hawliau ac yn ein hannog i’w defnyddio. Mae’n ddigon posib nad yw pawb yn ymwybodol o’u holl hawliau pan yn ymwneud â’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus ac mae hyn yn gyfle i roi sylw i’r hawliau hynny.

'Fel myfyriwr prifysgol rwyf wedi gweld newid cadarnhaol yn y modd mae’r Brifysgol yn ymdrin â’r Gymraeg ac mae angen yn awr i ni adeiladu ar y llwyfan hwnnw i’r dyfodol.'

Un arall sydd yn serennu yn yr ymgyrch yw Elen Madrun Llewelyn-Evans, disgybl 17 oed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth:

'Mae’n braf gwybod bellach fod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a bod yna wrandawiad iddynt gan ein bod yn pryderu am y dyfodol mewn cymaint o wahanol feysydd. Wedi’r cyfan, ein dyfodol ni yw’r hyn sydd dan sylw.

'Roedd yn grêt cael bod yn rhan o wneud y ffilm hon a gobeithio y caiff yr effaith angenrheidiol wrth i ni barhau i gynyddu’r defnydd o’r Gymaeg ymhob agwedd o’n bywydau.'

Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenIHawl neu fynd i wefan Comisiynydd y Gymraeg.