Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA yn agor ymgynghoriad ar Ddiploma Mynediad i AU Rhyngwladol

Dyddiad: Mehefin 3 - 2025
Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), sydd wedi bod yn rheoleiddiwr ar gyfer y Diploma Mynediad i Addysg Uwch ers 1997, wedi agor ymgynghoriad ar y rheoleiddio a'r trwyddedu arfaethedig ar gyfer fersiwn ryngwladol newydd bosibl o'r diploma. Cynhaliodd QAA ymgynghoriad cyhoeddus ar egwyddorion eang Diploma Mynediad i Addysg Uwch Rhyngwladol (IAHED) yn 2024. Mae'r ail ymgynghoriad hwn yn gwahodd adborth pellach gan bob rhanddeiliad, yn enwedig y rhai sydd â mewnwelediad gweithredol, i lunio manylion penodol yr IAHED arfaethedig a'i reoleiddio – yr Asiantaethau Dilysu Mynediad (AVAs) sy'n dyfarnu'r diploma, darparwyr Mynediad i AU, a llunwyr polisi ac ymarferwyr sydd â chylch gwaith rhyngwladol, er enghraifft.

Byddai'r IAHED arfaethedig yn cael ei gyflwyno’r tu allan i'r DU. Byddai'n rhoi cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol fynd i addysg uwch p'un a oedd y myfyriwr am fynd i addysg uwch yn y DU (a ddarperir dramor trwy drefniant trawswladol, neu yn y DU), neu addysg uwch mewn gwlad arall.

Mae'r ymgynghoriad yn amlinellu gofynion arfaethedig ar gyfer Asiantaethau Dilysu Mynediad er mwyn iddynt dderbyn trwydded i ddilysu'r diploma rhyngwladol. Mae’r cynigion hefyd yn rhoi sylw i'r lefel hyfedredd Saesneg gofynnol a'r dulliau cyflwyno a ganiateir ar gyfer y diploma.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig y byddai Asiantaethau Dilysu’n destun cyfnod peilot dwy flynedd i ddechrau, lle byddai trwyddedau'n cael eu cyhoeddi fesul gwlad. Wedi hynny gallai Asiantaethau Dilysu ddod yn gymwys i gael trwydded ryngwladol lawn am bum mlynedd.

Mae QAA yn trwyddedu Asiantaethau Dilysu Mynediad (AVAs) i ddatblygu, dilysu a dyfarnu'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn y DU. Mae'r Diploma Mynediad i AU yn canolbwyntio ar ddarparu dysgwyr sy'n oedolion sy'n dymuno mynd i addysg uwch â’r cymwysterau angenrheidiol yn y maes pwnc y maent yn dymuno ei ddilyn.

Gallwch ddarllen y dogfennau ymgynghori ar-lein.  

Dylid cyflwyno ymatebion gan ddefnyddio ein harolwg ar-lein erbyn 6ed Gorffennaf 2025.