QAA Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar briodoleddau graddedigion
| Dyddiad: | Tachwedd 21 - 2025 |
|---|
Mae QAA Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd pwysig ar brif briodoleddau graddedigion yng Nghymru a sut y gall darparwyr feithrin datblygiad y nodweddion hyn.
Mae'r adroddiad wedi'i gynhyrchu gan Brosiect Gwelliant Cydweithredol QAA Cymru a ariannwyd yn wreiddiol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (y mae ei swyddogaethau bellach wedi'u trosglwyddo i Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru).
Cynhaliwyd y prosiect gan gydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Coleg Sir Benfro, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam.
Nododd ymchwil y tîm "anghysondebau sylweddol rhwng y sgiliau y mae cyflogwyr yn gosod gwerth arnynt a'r rhai y mae myfyrwyr yn credu eu bod yn eu dysgu" - sydd wedi arwain at "fwlch rhwng paratoad academaidd a disgwyliadau’r gweithle". Er bod "cyflogwyr yn blaenoriaethu priodoleddau ymarferol fel ymroddiad, cydweithio ac annibyniaeth", canfu fod "myfyrwyr yn rhoi mwy o bwyslais ar fynegiant personol a chynhwysiant".
Nododd yr astudiaeth hefyd nad oedd sgiliau craidd o'r fath – a werthfawrogir gan gyflogwyr – fel datrys problemau, parodrwydd i ddysgu ac addasu’n cael eu datblygu’n ddigonol mewn graddedigion.
Mae'n gwneud cyfres o argymhellion y gallai darparwyr eu defnyddio i fireinio eu dulliau yn y maes hwn, gan gynnwys integreiddio dysgu sy'n seiliedig ar arfer yn well, alinio terminoleg academaidd a therminoleg diwydiant, a mwy o ffocws ar wydnwch.
Meddai David Gale, Pennaeth Cymru a Gogledd Iwerddon QAA: "Mae'r prosiect ymchwil trylwyr a helaeth hwn yn cynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i ddarparwyr trydyddol, o fewn i ffiniau Cymru a thu hwnt, wrth i'n sector weithio i ddangos ei gyfraniad allweddol at dwf diwydiannol."