Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

QAA Cymru yn adrodd ar ymrwymiad i’r Gymraeg ar gyfer 2020-21

Dyddiad: Ionawr 24 - 2022

Mae QAA Cymru wedi cyhoeddi'r adroddiad blynyddol diweddaraf ar eu hymwneud â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ystod y flwyddyn academaidd 2020-21.

Mae QAA yn gweithredu’n amodol ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) ac mae'r adroddiad yn dangos sut rydym yn cydymffurfio â'r safonau hyn o ran darparu gwasanaethau, gweithrediadau, llunio polisïau a chadw cofnodion.  Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys gweithgarwch sy’n dangos ein hymrwymiad ehangach i’r Gymraeg, rôl yr iaith mewn addysg uwch yng Nghymru a sut rydym yn parhau i ymwneud â gwaith Comisiynydd y Gymraeg. 

Mae'r ymagweddiad cyffredinol at fodloni Safonau'r Gymraeg yn QAA wedi'i gynllunio i greu diwylliant o werthfawrogiad a dealltwriaeth ar draws y sefydliad.

Mae’r ymrwymiad eang i’r Gymraeg yn cynnwys Gweithgor Iaith Gymraeg traws-sefydliadol penodedig, a gafodd ei dreialu’n llwyddiannus yn y flwyddyn academaidd 2020-21 ac a fydd yn parhau yn 2021-22. Mae'r grŵp yn goruchwylio Safonau'r Gymraeg yn QAA ac yn datblygu dulliau gweithredu ac arfer gorau er budd y sefydliad a siaradwyr Cymraeg sy'n ymgysylltu â ni. 

Wrth wneud sylw ar gyhoeddi’r adroddiad, meddai Alastair Delaney, Dirprwy Brif Weithredwr QAA:

“Rydym yn falch o'r cynnydd yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod QAA mor hygyrch a chynhwysol â phosibl i siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n hymrwymiad i’n gwaith yng Nghymru ac i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i wella ac rydym eisoes yn datblygu cynlluniau ar gyfer datblygu cynnwys QAA Cymru a’n hymrwymiad i’r Gymraeg ymhellach yn 2022.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ar wefan QAA.