Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Prif Weithredwr QAA wedi ei benodi i Fwrdd Cymwysterau Cymru

Dyddiad: Mawrth 12 - 2021
Heddiw, cyhoeddodd Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg Cymru ei phenderfyniad i benodi Douglas Blackstock, Prif Weithredwr QAA i Fwrdd Cymwysterau Cymru.

Cymwysterau Cymru yw'r corff statudol annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru. Mae'n cynnig goruchwyliaeth reoleiddiol a chyngor arbenigol annibynnol ar safonau a gofynion. Bydd Douglas yn ymuno â'r Bwrdd am dymor o dair blynedd o 15 Mehefin 2021.

Mae gan Douglas 20 mlynedd o brofiad o weithio yn QAA, lle mae wedi cyflawni rôl hanfodol yn ein gwaith i gynnal safonau academaidd a gwella ansawdd ac enw da addysg uwch y DU drwy'r byd i gyd. Mae'n mynd i ymadael â'i rôl fel Prif Weithredwr QAA ar ddiwedd 2021, ond bydd yn parhau i wasanaethu ar Fwrdd Cymdeithas Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch Ewrop (ENQA).

Meddai Douglas: “Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi i Fwrdd Cymwysterau Cymru. Mae eu rôl yn bwysig ac yn angenrheidiol wrth i Gymru symud tuag at un system addysg ôl-orfodol gyfunol, ac wrth i'r sector addysg drwy'r DU gyfan addasu i heriau'r pandemig COVID-19. Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r Bwrdd a chyfrannu at ei waith i sicrhau bod dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg yn gwerthfawrogi ac yn ymddiried yn y cymwysterau rheoleiddiedig a gynigir yng Nghymru.”

Mae QAA a Chymwysterau Cymru'n cydweithio i reoleiddio a chydnabod y Diploma Mynediad i AU yng Nghymru, ac yn rhannu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.