Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Penodi Cyfarwyddwr newydd dros Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn QAA

Dyddiad: Mawrth 21 - 2023
Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi ein bod wedi penodi Kathryn O'Loan yn Gyfarwyddwr newydd dros Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd Kathryn yn ymuno â QAA ym mis Mehefin 2023. Mae hi'n dod o Gyngor Cyllido'r Alban, sef awdurdod y sector ymchwil ac addysg drydyddol yn yr Alban, lle mae hi'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol dros Fynediad, Dysgu a Chanlyniadau.

Ar hyn o bryd, mae ganddi'r cyfrifoldeb am oruchwylio agenda Cyngor Cyllido'r Alban ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd yr addysg bellach a'r addysg uwch a ddarperir yn y colegau a'r prifysgolion yn yr Alban. Mae hyn yn cynnwys arwain y gwaith o ddatblygu dull o sicrhau a gwella ansawdd yn y sector addysg drydyddol, mewn ymateb i'r argymhelliad a gafwyd yn yr Adolygiad o Gynaliadwyedd a Chydlyniad gan Gyngor Cyllido'r Alban.

Mae Kathryn hefyd yn arwain agenda ansawdd Cyngor Cyllido'r Alban ar lefel y DU, gan gynnwys cysylltu a chydweithio â phartneriaid ledled Cymru a Gogledd Iwerddon.

Cyn ei gyrfa yn gweithio i Gyngor Cyllido'r Alban, bu Kathryn yn rheoli rhaglenni addysg gymunedol a rhaglenni Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o brifysgolion a chyrff cyhoeddus anadrannol.

Wrth gychwyn yn ei swydd newydd, bydd Kathryn yn arwain ac yn rheoli'r tîm dros Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau gweithrediad ei waith a chefnogi cyfeiriad strategol rôl QAA yng ngwledydd y DU. Bydd hefyd yn cefnogi Alastair Delaney, ein Dirprwy Brif Weithredwr, wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ymhob rhan o'r sector ac ag asiantaethau llywodraethau.

Meddai Kathryn: 'Rwyf wrth fy modd yn ymuno â QAA yn ystod y cyfnod cyffrous hwn i'r sector addysg drydyddol ledled y DU, ac yn arbennig yn y gwledydd datganoledig. Edrychaf ymlaen yn fawr at gwrdd a gweithio â'r tîm yn QAA, y myfyrwyr, y staff a'r cyrff cyllido i ddatblygu'r cysylltiadau a'r cyflawniadau ymhellach.'