Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae 'trefniadau cadarn' ar gyfer ansawdd yn Grŵp Llandrillo Menai, yn ôl corff ansawdd annibynnol y DU

Dyddiad: Gorffennaf 18 - 2022

Mae gan Grŵp Llandrillo Menai (y Grŵp) ‘drefniadau cadarn ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, ac ar gyfer gwella profiad myfyrwyr’, yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Canmolodd yr adolygiad grŵp y coleg am ei gyflawniadau mewn sawl maes, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, dysgu ar-lein a dysgu o bell. 

Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd ar-lein rhwng 9fed a’r 10fed Mai 2022. Yn gyffredinol, daeth y tîm i’r casgliad fod y Grŵp yn diwallu gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol, a'i fod yn ateb gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru. 

Mae’r ganmoliaeth gan yr adolygwyr yn cynnwys y canlynol: 

  • Ehangder a dyfnder y gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr sydd ar gael ar bob campws ac i bob myfyriwr, sy'n galluogi eu datblygiad academaidd, personol a phroffesiynol
  • Y cyfleusterau addysgu a dysgu cynhwysfawr sydd ar gael i fyfyrwyr gan gynnwys y defnydd helaeth o dechnoleg i gynorthwyo addysgu.
  • Agwedd strategol y Grŵp at y ddarpariaeth ar gyfer dysgu ar-lein a dysgu o bell sy’n sicrhau profiad dysgu cynhwysol i fyfyrwyr.

Meddai Lawrence Wood, Pennaeth, Coleg Llandrillo ac Addysg Uwch y Grŵp: ‘Mae canlyniad yr adolygiad hwn yn dangos ymrwymiad y Grŵp i gyflwyno darpariaeth Addysg Uwch leol o safon uchel, sy’n cefnogi twf economaidd yn y rhanbarth. Mae hyn hefyd yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymrwymiad ein staff i gynorthwyo pob dysgwr unigol i gyflawni. Wrth edrych ymlaen, byddwn yn parhau i ddatblygu ein darpariaeth gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion y cyflogwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.’

Mae adroddiad QAA hefyd yn gwneud un argymhelliad, sy’n gofyn i'r Grŵp wneud y canlynol: 

ffurfioli a gweithredu trefniadau hyfforddiant, ar gyfer staff academaidd sefydledig, yn ei brosesau ansawdd, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn modd cyson.