Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Dyfarniad cadarnhaol i’r Union School of Theology yn dilyn adolygiad QAA

Dyddiad: Awst 10 - 2022

Mae adolygiad o’r Union School of Theology gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), corff ansawdd annibynnol y DU ar gyfer addysg uwch, wedi mynegi hyder bod ‘safonau academaidd yn ddibynadwy, eu bod yn bodloni gofynion y DU, ac yn rhesymol gymaradwy - y dyfarniad uchaf sydd ar gael drwy'r broses adolygu.

Mae’r Ysgol Ddiwinyddiaeth (UST) yn cynnig cymwysterau addysg uwch i “unrhyw un sydd eisiau tyfu’n academaidd ac yn ysbrydol – yn eu dealltwriaeth o’r Ysgrythur Gristnogol, yn eu sgiliau gweinidogaethu ac o ran eu datblygiad personol.” Mae gan UST gampws preswyl yn Ne Cymru a Chymunedau Dysgu ledled y byd; mae'n cynnig Diploma i Raddedigion mewn Diwinyddiaeth, BA mewn Diwinyddiaeth ac MTh mewn Ysgrythur a Diwinyddiaeth, i gyd gyda'r Brifysgol Agored. Mae UST hefyd yn cynnig rhaglen PhD mewn partneriaeth â'r Vrije Universiteit Amsterdam (VU Amsterdam).

Cynhaliwyd yr adolygiad ar-lein gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd rhwng 24ain a’r 25ain Mai 2022. Mynegodd yr adolygiad hefyd “hyder bod ansawdd profiad academaidd myfyrwyr yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol”.

Mae'r adolygiad yn darparu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) â barn arbenigol ynghylch parodrwydd y darparydd i ymuno â'r sector addysg uwch, neu barhau i weithredu ynddo.

Nododd y tîm adolygu ddau faes i’w datblygu, gan gynghori’r Ysgol Ddiwinyddiaeth i wneud y canlynol:

  • cwblhau a gweithredu'r arolwg newydd ymhlith cyn-fyfyrwyr, er mwyn deall deilliannau academaidd a phroffesiynol myfyrwyr yn well;
  • ac i gryfhau ymhellach y broses sefydlu a chyfathrebu gyda chynrychiolwyr myfyrwyr i sicrhau y gallant gyflawni'r rôl yn effeithiol.
Meddai Dr Clive Bowsher, Profost UST “Rydym wrth ein bodd â’r hyder a fynegwyd gan yr Adolygiad Ansawdd Porth a gynhaliwyd yn ddiweddar gan QAA o’r Ysgol Ddiwinyddiaeth, o ran safonau academaidd ac ansawdd yr hyfforddiant ac addysg ddiwinyddol a gaiff ein myfyrwyr.”