Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Dyfarniad cadarnhaol i’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn dilyn adolygiad QAA

Dyddiad: Mehefin 7 - 2022

Mae adolygiad o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), corff ansawdd annibynnol y DU ar gyfer addysg uwch, wedi mynegi hyder bod “safonau academaidd yn ddibynadwy, eu bod yn bodloni gofynion y DU, ac yn rhesymol gymaradwy” - y dyfarniad uchaf sydd ar gael drwy'r broses adolygu. 

Mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen (y Ganolfan) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, yn ganolfan ecolegol sy’n arwain y byd ac yn ddarparydd addysg amgylcheddol ôl-raddedig blaenllaw. Eu cenhadaeth yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi’r ddynoliaeth i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Wedi’i sefydlu ym 1973, mae’r Ganolfan wedi’i lleoli ger Machynlleth yng nghanolbarth Cymru, ac mae wedi bod yn darparu addysg ym maes cynaliadwyedd ers dros 40 mlynedd  

Cynhaliwyd yr adolygiad gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan QAA, ac fe’i cynhaliwyd ar-lein rhwng 21ain a’r 22ain Mawrth 2022. Mynegodd yr adolygiad hefyd “hyder bod ansawdd profiad academaidd myfyrwyr yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol”.  

Mae'r adolygiad yn darparu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) â barn arbenigol ynghylch parodrwydd y darparydd i ymuno â'r sector addysg uwch, neu barhau i weithredu ynddo. 

Ni nododd y tîm adolygu unrhyw welliannau penodol neu feysydd i'w datblygu.  

Meddai Pennaeth Ysgol y Ganolfan, Dr Adrian Watson: “Mae graddau Meistr CAT yn ymdrin ag ystod eang o faterion yn ymwneud â chynaladwyedd, ac mae ein hymagwedd ymarferol, ar ffurf trochi, at ddysgu bellach wedi helpu dros 2,000 o fyfyrwyr ôl-raddedig i ennill sgiliau a gwybodaeth, yn ogystal â ffurfio rhwydweithiau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.  

“Mae sicrhau’r dyfarniad uchaf posibl gan y corff sy’n goruchwylio ansawdd a safonau ar gyfer addysg uwch yn y DU yn dyst i sgiliau ac ymroddiad staff addysgu a chymorth CAT, gan ddangos bod ein hymagwedd unigryw at addysg yn bodloni safonau academaidd llym, tra’n cynnig profiad hynod ysbrydoledig a grymusol i fyfyrwyr.”